LLYTHYR: [?] oddi ar fwrdd llong y Lammermoon at ei dad a'i fam. Mae wedi treulio "tair gwyl" mewn lle pur rhyfedd na allai lai na'i gyffelybu i garchardy oblegid ei gyfyngder. Ni welodd fawr ddim tir ar ôl gadael Point Lynas. Roedd y llong yn mynd yn gyflym iawn am wythnosau. Gwelodd lawer math o bysgod, rhai yn codi o'r dwfr fel adar. Sonia hefyd am y bwyd a bod y bara yn galed fel "casteel". Byddant yn canu emynau Williams Pantycelyn. Bu storm fawr ar y môr anafwyd rhai o'r llongwyr yn ddrwg. Dweud fod y Gwyddelod yn genedl fwyaf barbaraidd yr Ymerodraeth Brydeinig a'u bod wedi dod a llawer o bryfed i'w canlyn - y mae cymaint o lau yn aflonyddu arnynt nes prin y gallent gysgu'r nos. Mae briwiau ar eu crwyn ar ôl crafu.
Llythyr yn anghyflawn