Llythyr: Hugh [Owen] Fair Haven, Vt. at ei frawd [Shon]

Scope and Content

LLYTHYR: Hugh [Owen] Fair Haven, Vt. at ei frawd [Shon] yn diolch am ei lythyr ac yn ymfalchio fod eu tad wedi ymuno a Eglwys Dduw. Mae Hugh yn cael mwy o bleser efo pethau crefyddol na gafodd erioed. Bydd yn teimlo yn wan lawer gwaith ond teimlai hefyd fod addewid nef o'i ochr a bod Iesu'n ffrind i'r gwan. Buasai'n hoffi clywed pregethwyr Cymru ambell waith. Mae'n dweud na all fforddio y £3 i ddod adref hefo'r 'excursion' gan ei fod newydd agor chwarel gydag eraill, ac os bydd y fenter yn llwyddiannus, bydd wedi ei 'gwneud hi' am byth. Sonia am Lizzie Lloyd ei gariad, merch y 'bordin'. Mae hi o waed Cymreig. Mae yn anfon ychydig linellau amdani ac yn falch fod ei fam yn ei hoffi. Sonia am farwolaeth ei ewythr Owen [yn Awstralia].

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da /Good condition