Llythyr: R. a H. Owens, Pant Hwfa, Tanygrisiau, at eu rhieni a'u brawd

Scope and Content

LLYTHYR: R. a H. Owens, Pant Hwfa, Tanygrisiau, at eu rhieni a'u brawd. Maent yn iach ac i Dduw y bo'r diolch am hynny. Mae Jacob James, y bachgen mawr welodd Sion yn No. 5 efo Hugh, yn 'lodgio' hefo nhw erbyn hyn. Maent yn eu rhybuddio i beidio a synnu os gwelant yr hen wreigan [? land lady] yno yn Sir Fôn rhyw ddydd. 'Roedd Sion yn caru hefo'r forwyn a dyna fel y cafodd ei hel adref mor fuan. Maent yn gofyn am dipyn o hanes Canaan; y cynhaeaf; chwarel Bethesda a Dafydd a'i deulu. Mae Hugh wedi prynu Yr Ysgol farddol i [? John] ac maent yn peri wneud yn fawr ohoni gan fod ganddo ddigon o amser.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da /Good condition