Llythyr: Hugh, Lizzie ac Idwal bach at dad a mam Hugh yn Llanfairpwll

Scope and Content

LLYTHYR: Hugh, Lizzie ac Idwal bach [yn llawysgrif Lizzie] at dad a mam Hugh yn Llanfairpwll yn diolch am eu llythyr. Maent newydd gael lluniau o Idwal bach ac yn amgau rhai ohonynt. Maent yn anfon llun i David hefyd er eu bod wedi anfon gair ato dair wythnos yn ol. Fe hoffent anfon un i Dick ond ni wyddont ble y mae, gan i'r llythyr olaf iddynt ysgrifennu ato gael ei ddychwelyd. Bu Robert, Cwm y Glo yn aros yno dros y Sul. Maent yn anfon y Cyfaill yn cynnwys cofiant mam Lizzie a phenillion o waith ei hewythr, John Williams, Ffestiniog. Fe hoffent gael lluniau o'r teulu yn Llanfairpwll. Mae chwarel Hugh yn edrych yn dda iawn. Buont yn gwrando ar James Donne a Hugh Jones (o Sir Fôn) ond James Donne yw'r ffefryn gan bawb. Fe soniodd Hugh am ei deulu wrtho ond go brin iddo gofio Hugh o'r holl filoedd a welodd.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da /Good condition