Llythyr: R.H. Owen, Fairhaven, Rutland Co. Vermont, America at ei rieni a'i frawd

Scope and Content

LLYTHYR: R.H. Owen, Fairhaven, Rutland Co. Vermont, America at ei rieni a'i frawd yn gobeithio nad ydynt yn poeni amdano ef a'i frawd [Hugh]. Mae yn ymddiheuro am beidio mynd i'w gweld cyn gadael Ffestiniog ac mae'n ddrwg ganddo eu bod yn eu cyfrif yn ddideimlad ond meddwl oeddynt mai gwell fyddai peidio eu gweld gan eu bod yn benderfynol o fynd a bod gadael i fynd i Ffestiniog wedi bod yn ddigon called ar eu mam a hwythau. Does ganddo ddim i'w ddweud am y fordaith ond fod y llong yn fawr iawn ac ni welodd yr un pysgodyn ar yr holl daith. Bu yn sâl iawn am ddau ddiwrnod. Roedd lawer o genhedloedd a neb yn deall y naill a'r llal yn siarad. Roedd rhai Cymry yn gweithio ar y llong. Mae'n sôn am iddynt ddweud fod yr Americanwyr yn bobl ddrwg ond credai ef eu bod yn well at ei gilydd na'r Cymry. Mae'r Gwyddelod fel ym mhobman yn waeth na chenedl arall. Mae'r Sabboth yn cael ei halogi yno gan y 'Pads'. Mae yno ddau gapel Cymreig yn y pentre, Annibynwyr a Methodist. Mae'r hen wraig ble maent yn 'bordio' yn hen wraig Dduwiol ac mae gofyn yddynt fod yn ofalus beth i'w wneud a'i ddweud. Mae yn anfon cofion pur at Dafydd a'i deulu.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da /Good condition