Llyfrau yn llawysgrif y Parch. David Elias o Bentraeth, brawd yr enwog John Elias

Scope and Content

Fe geir llawer am David Elias yn y geiriaduron bywgraffyddol cyffredin, ond gwell yw darllen amdano yn Hanes Meth. Môn gan John Prichard (yn enwedig t. 196) ac yng nghofiant Dr. John Hughes gan Dr. John Williams. Yr oedd yn y pegwn eithaf i'w frawd o ran poblogrwydd a nerth areithyddol; garw, dychrynllyd,a digymrodedd oedd osgo ei bregethu - "gosodai edifeirwch allan yn y fath fodd fel na ddymunai neb ei gael." Hynododd ei hun yng Ngwrdd Misol Môn, gyda Chadwaladr Williams o Benceint, drwy wrthwynebu'n ormodol addysg arbennig at y Weinidogaeth, ac arafu olwynion mudiad Coleg y Bala, pethau a ymddengys braidd yn rhyfedd yn wyneb ei ymdrechion ef ei hun i ddysgu Saesneg ac ymorol am wybodaeth (2404, td. 19, 23, 24). Ond rhaid yw cofio yr ymgroesi'r pryd hwnnw rhag ofn i'r addysg sychu ei yspryd a'i amddifadu o gwmni'r Arglwydd (ib., 25). Ganwyd ef yn 1790, a bu farw yn 1856.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssdep