Llythyrau at Mr Owen Evans, [Dinbych] oddi wrth amryw ohebwyr

Scope and Content

Ymysg y gohebwyr mae Alltud Eifion yn 1904 (90 oed) yn adrodd helyntion "Brython" Tremadog (BMSS/2935)

Mae llawer oddi wrth bobl yn ymddiddori mewn lyfrau fel y diweddar John Ballinger, Y Canghellor Fisher, T.R. Roberts (Asaph) a'r Parch. T. Llechid Jones pan oedd yn ficer yn Ysbyty Ifan. Amryw ar faterion diwinyddiaeth a llyfrau yn ymwneud â'r wyddor fawr honno oddi wrth neb llai na Driver, Marcus Dods, Souter, Plummer, Sanday, Stalker, Sayce a'r Prifathro T.C. Edwards (BMSS/2948-2950)

Ieithegwyr fel Syr John Rhys, y Canghellor Silvan Evans (BMSS/2957), Syr John Morris-Jones (BMSS/2967), ac Emrys ap Iwan ar yr orgraff (BMSS/2969). Yna llenorion o fri fel Ehedydd Iâl (BMSS/2952), Llew Llwyfo (BMSS/2979), Tafolog (BMSS/2997), Eifionydd yn ei wahodd i sefyll arholiadau'r Orsedd (BMSS/2953), Gwilym Cowlyd (BMSS/2965) yn rhoddi ei farn am atgyfodiad y meirw a Daniel Owen yn diffinio'r gwahaniaeth rhwng rhamant a nofel (BMSS/2983). Dau lythyr yn dod yn agosach at dref Dinbych yw un Mrs Gee yn rhoddi amlinelliad o yrfa ei phriod enwog ac un oddi wrth Meiriadog yn rhoddi ei atgofion am Robert Owen y nailer (BMSS/2981)

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssoed