Beirniadaethau Eisteddfodol, Adolygiadau etc. gan Thomas Richards, Llyfrgellydd CPGC

Scope and Content

tt.1-2 Beirnidaeth y traethodau ar Forgan John Rhys, Eist. Gen. Treorci, 1928. Bob Owen yw Hereticus a Mr J.J. Evans, M.A., Prifathro Ysgol Sir Ty Ddewi a gafodd y wobr. Cyhoeddwyr y traethawd yn llyf (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)

tt.3-10 Beirniadaeth "Bywyd a Gwaith y diweddar Barch. Thomas Shankland M.A", Eist. Gen. Llanelli, 1930. Y Parch. J.T. Jones, B.A., Cross Hands a gafodd hanner y wobr

tt.11-25 Adjudication "The Contribution of Wales to the formation and development of the United States of America", Llanelli, 1930

tt. 26-31 Beirniadaeth "Hanes Crefydd ym Môn, 1700-1760", Eisteddfod Môn [Brynsiencyn], 1931. Bob Owen oedd y buddugol [a bu ymron iddo golli'r wobr drwy i'r cheque syrthio o dan draed y dyrfa]

tt.32-36 Beirniadaeth "Hanes Dyffryn Afan a Thir Iarll", Eist. Gen. Aberafan, 1932

tt.37-49 Beirniadaeth "Nofel Hanes seiliedig ar fywyd cyfnod Morgan Llwyd". Aberafan, 1932. Y Parch. D. Euros Walters M.A., a gafodd y wobr, a chyhoeddwyr y nofel eleni gan wasg Merthyr (1939) - "Pwerau Deufyd"

tt. 50-54 Beirniadaeth : "Mynegai i gyhoeddiadau cyfnodol [y Cymmrodor a'r Transactions] Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion o'r cychwyn yn 1877 i ddiwedd 1934. Personau, lleoedd a chynnwys." Eis. Gen. Caernarfon 1935.

tt. 55-57 Beirniadaeth "Buchedd a Gwaith Joseph Harris (Gomer). Eist. Gen. Abergwaun, 1936. Ennillwyd y wobr gan Mr. D. Rhys Phillips, Llyfrgellydd Cymraeg tref Abertawe

tt.58-60 Beirnidaeth "Ystori Hanesyddol ar gyfer Plant yr Ysgol Ganol" Eist. Gen. Machynllech, 1937

t. 61 Adolygiad ar "Old Cowbridge" gan y diweddar Barch. Lemuel J. Hopkin James, M.A., D.C.L. Ymddangosodd yn y Glamorgan Advertiser, 5 Jan. 1923

t. 62 Adolygiad ar waith y Parch. William Pierce ar John Penry (Y Brython, 14 Chwefror 1924)

t. 63 Ysgrif ar "Hen Flaenoriaid Talybont, Ceredigion" (Seren Cymru, 7 Mawth 1924)

t. 64 Adolygiad ar "Hanes Eglwys Heol Awst, Caerfyrddin" gan Dyfnallt (Y Tyst, 24 Mehefin 1926)

t. 65 Adolygiad ar "The Ancient Celtic Church and the See of Rome" gan y diweddar Barch. David Davies, Penarth (Y Brython, 3 Ebrill 1924)

tt. 66-70 Adolygiad ar "Hanes Cynulleidfa Henn Gapel Llanuwchllyn" gan Dr. R.T. Jenkins [Yr Efrydydd, Rhagfyr 1937]

t.t.71-77 Llythyr a fwriadwyd ei anfon i'r Herald Cymraeg yn ateb i feirniadaeth Mr T.J. Morgan ar "Greigiau Milgwyn" yn Y Llenor (Gwanwyn, 1936) ond ar daer ddymuniad cyfeillion, a gadwyd heb ei anfon

tt. 78-84 "Degree of D.Litt (University of Liverpool). Cadidature of Mr D.E. Jenkins, M.A.", Ffrwyth y farn hon (gyda barn ffafriol arholydd arall) oedd i Mr Jenkins ddod yn Ddoethur Llên ym mlynyddoedd olaf ei oes

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsstrch