Dau gopi-bwc o eiddo David Griffith "Offeiriad"

Scope and Content

Llyfr tynnu mapiau yw BMSS/7347 - mapiau o Brydain a gwledydd y byd, y mwyafrif ohonynt mewn lliw.

Yn ôl yr arysgrif ar y clawr - "David Griffiths, Training College Caernarvon" ymddengys mai i'r cyfnod byr y bu'n ddisgybl yn y Coleg hwnnw y perthyn y llyfr hwn.

Nid oes dim ond y cloriau ar ôl o'r ail lyfr (BMSS/7348); ond tu mewn i'r clawr blaen ceir arysgrif David Griffiths, Ty Cnap, Llanwnda, his count book, Novr 15th 1853" ynghyd â chadwyn o englynion ar wahanol destunau fel "St. Raglan", "Arthur", "Bachgen Amddifad", etc.

Sylwer ar ei ymdrechion gwir dda i dynnu lluniau Wellington a Llywelyn ein Llyw Olaf ar wynebau'r cloriau

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssdg