Llawysgrif yn cynnwys "Briwsion o'r brydyddiaeth Gymraeg yn Cynnwys Flores Poetarum Britanicorum o gasgliad Jo: D: S, Th. D, fal yr ydys yn tebygu: âg ynghylch 38 o gywyddeu [cywyddau] ac odleu a 243 o Englynion, wedi eu hysgrifenu gan Jaco ab Dewi 1707"; tt xv, 291)

Scope and Content

Am nodyn byr ar awdur y lawysgrif hon gweler 'Hanes Llenyddiaeth Gymraeg' (Thomas Parry) t. 213 - ".....James Davies (Iaco ab Dewi, 1648-1722), gŵr amryddawn, un o ddisgyblion Stephen Hughes, a fu'n cynorthwyo i gyfieithu Taith y Pererin, ac a drosodd i'r Gymraeg amryw lyfrau crefyddol eraill".

Gweler hefyd nodyn llawnach gan Garfield H. Hughes yn 'Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol', III, tt.51-53 ar Iaco ab Dewi: Rhai Ystyriaethau.

Ar t. 291 o'r llawysgrif ceir arysgrif "William Bone his hand pen and ink one Thousand Seven hundred and Seventy one", praw iddo fod ym meddiant William Nona o Lanpumsaint, llenor a chopiwr llawysgrifau y bu dylanwad Iaco ab Dewi yn drwm arno (gw. Garfield H. Hughes op. cit. t.53).

Enw arall a geir ar y wyneb ddalen ac ar t.292 yw "Walter Jenkins", ynghyd â'r dyddiad 1716; ac mae lle go gryf i gredu mai Peter Bailey Williams yw'r "P.B.W." sy'n ychwanegu nodyn neu ddau ar t.ii; hefyd bu ym meddiant R. Ivor Parry o Bwllheli (t.171).