Papurau y Parchedig Henry Hughes, Bryncir

Scope and Content

Ymysg ei bapurau ei hun ceir amrywiaeth o lawysgrifau unigolion eraill a ddaeth i'w law ynghyd â chofnodion capeli y bu'n gysylltiedig â hwy.

Administrative / Biographical History

Ganed Henry Hughes, Bryncir yn Rhoslan, Sir Gaernarfon yn 1841. Roedd yn un o blant Diwygiad 1859. Wedi iddo gael ei ordeinio yn 1871 daeth yn weinidog ar gapeli yn Garndolbenmaen, Bryncir a Brynengan. Fodd bynnag, oherwydd y pellter mawr rhwng y capeli, bu raid i Henry Hughes roi'r gorau i Gapel Garndolbenmaen. Bu'n weinidog ar y ddau gapel arall am 45 o flynyddoedd.

Ymysg ei gyhoeddiadau mae gweithiau am y diwygiadau crefyddol yng Nghymru a hanes ysgolion Sul yn Eifionydd.

Bu farw yn 1924 cyn iddi allu ysgrifennu hanes Methodistiaeth Calfinaidd yn Llyn ac Eifionydd - pwnc yr oedd wedi bod yn casglu deunydd ar ei gyfer ar hyd ei oes.

Access Information

Open

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsshhug