'Hen faledau 1780-1890'

Scope and Content

Baledi wedi'u casglu gan Erfyl Fychan, [1930], gan awduron megis 'Ywain Meirion', Abel Jones ('Y Bardd Crwst'), Richard Williams ('Bardd Gwagedd') a Richard Davies ('Bardd Nantglyn') ar destunau fel llofruddiaethau, damweiniau a thrychinebau. Ychwanegwyd nodiadau gan Erfyl Fychan mewn pensil am bwy oedd wedi canu'r faled. -- Ceir dalen rhydd gyda'r teitl 'Bibliography of Ballads composed by Owen Griffith (Ywain Meirion) compiled by Erfyl Fychan' ar ddechrau'r gyfrol a mynegai anorffenedig.

Note

Preferred citation: /3

Related Material

Ceir llythyr, 1930, oddi wrth Erfyl Fychan at D. Rhys Phillips (2613) ymhlith papurau'r olaf yn ymwneud ag awduron baledi Cymreig, 1780-1790.

Additional Information

Published