Llawysgrifau'r Ty Coch, Llanfair P.G.

Administrative / Biographical History

Oddi wrth Lady Morris-Jones (Hydref, 1940). Ceir yn eu plith amryw bethau o waith hynafiaid Syr John Morris-Jones ( yn enwedig 3259-3261A), ond nerth mawr y casgliad yw y chwe' chyfrol llythyrau a anfonwyd o dro i dro at Syr John ei hun, pan oedd ef nid yn unig yn Athro yng Ngholeg y Gogledd (1889-1929), ond yn un o brif golofnau dysg yn y byd Celtig, ac yn bennaf ysgogydd y Dadeni Cymraeg yng Nghymru. Chwe' chyfrol, 683 o lythyrau i gyd. Dosbarthwyd hwy yn ôl prif lythyren cyfenw'r llythyrwr, gyda'r eithriad y ceir llythyrau Alafon o dan Al - ac nid Owen (Parch. O.G.Owen), Dyfed o dan D ac nid Rees, Pedr Hir o dan Pe-, yn union o flaen Pedrog, ac nid o dan Williams (Parch.Peter); ac felly gyda beirdd a llenorion o fri. Neilltuwyd cyfrol arbennig i lythyrau Dr. Gwenogvryn Evans, ac un arall i lythyrau Syr John Rhys a Syr Owen Edwards (gyda'i gilydd yn un gyfrol, 3246). Ni ysgrifennwyd cofiant i Syr John hyd yn hyn; sicr yw y bydd raid i'r cofiannydd ddarllen y chwe' chyfrol yma drwodd a thro.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssjmj