Llythyr: Elizabeth Hughes, Ty Mawr Mynydd, i'w brawd a'i chwaer wedi eu hysgrifennu ar yr un dudalen ond i'r ddau ar wahân

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDAX/2/1/25
  • Alternative Id.
      GB 221 WDAX/27
  • Dates of Creation
      1849 Tach. 21
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Elizabeth Hughes, Ty Mawr Mynydd, i'w brawd a'i chwaer wedi eu hysgrifennu ar yr un dudalen ond i'r ddau ar wahân. Y cyntaf i'w chwaer Mary, drwg ganddi na fusai wedi ateb ei llythyr yn gynt, wedi cael marchnad lled anniben hefo'r 'ffowls a gwerthu yr hwyaid i gyd, 13 yn gwneud 6s6d a pump or cywion am 9d'. Dywed i'w mam fyned gydag basged a 6 ciw byw a cherdded bob ty a drws a dod adref heb werthu dim un ac wedi blino. Ni welsont byth oddiwrth Marged Roberts. Mae John Williams ac Edward Rogers wedi ymadael, mae Bety Rogers wedi cael ei chyflog i gyd. Dywed fod y class Sabath yn cofio amdani. Cario ymlaen gyda llythyr i'w brawd, wedi derbyn ei lythyr ac yn falch fod y ddau yn gysurus yn y lodgings newydd. Dywed ei bod y hollol ar i lawr yn bresenol am rynion a blawd ceirch ond y cofith amdanynt pan y cant silio. Dywed wrtho am wneud yn fawr o'r amser, mae yn llawer fwy lwcus na pe tae yna: ei thad yn leddrwg ei natur, llawer o arian i dalu. Yna mae yn enwi rhai sydd wedi priodi yn ddiweddar.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition