Papurau D. Tecwyn Lloyd,

  • This material is held at
  • Reference
      GB 210 TECLLO
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004170294
      (alternative) (WlAbNL)0000170294
  • Dates of Creation
      [1870]-1998
  • Name of Creator
  • Language of Material
      Welsh Italian English  Cymraeg, Saesneg, Eidaleg (gweler y disgrifiadau ar y lefelau perthnasol).
  • Physical Description
      0.455 metrau ciwbig (44 bocs, 1 rholyn, 2 waled llwyd).

Scope and Content

Papurau personol, proffesiynol a llenyddol D. Tecwyn Lloyd, [1870]-1998, gan gynnwys papurau pan fu'n Gymrawd Ymchwil yn Rhufain, 1951-1952; nifer fawr o lythyrau yn deillio o’i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn Taliesin, 1965-1987; dyddiaduron, 1931-1992; papurau'n ymwneud â'i waith ymchwil ar Saunders Lewis; ynghyd â’i draethawd MA, 1961. Ceir hefyd papurau a grynhowyd ganddo. -- Personal, professional and literary papers of D. Tecwyn Lloyd, [1870]-1998, including papers relating to his time as Research Fellow in Rome; 1951-1952; letters relating to his work as editor of the literary periodical Taliesin, 1965-1987; his diaries, 1931-1992; his research on Saunders Lewis; together with his MA thesis, 1961. Also included are papers accumulated by him.

Administrative / Biographical History

Golygydd, ysgrifwr a beirniad llenyddol oedd D. Tecwyn Lloyd. Fe'i ganwyd ar Fferm Penybryn, Glanrafon, ger Y Bala, ar 22 Hydref 1914 yn fab i John a Laura Lloyd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn y Gymraeg yn 1937 wedi iddo fynychu Ysgol y Cyngor Glanrafon (Llawrybetws) ac Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala. Dilynodd gwrs Ymarfer Dysgu a gadael Bangor yn 1938. Yn 1955 priododd Frances Killen a bu hi farw yn 1980. Yn 1984 priododd Gwyneth Owen.
Bu'n gweithio gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1938-1946, ac wedi hynny fel darlithydd a llyfrgellydd yng Ngholeg Harlech, 1946-1955. Bu'n gyfarwyddwr Cwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam ac yn is-olygydd Y Cymro, 1956-1961. Yn 1961 derbyniodd radd MA Prifysgol Lerpwl ac fe'i penodwyd yn aelod o staff Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru Aberystwyth a symudodd i fyw i ardal Caerfyrddin. Yn 1980 dychwelodd i'w hen ardal, i Maes yr Onnen, Maerdy, Corwen, gan deithio i'r de yn wythnosol gyda'i waith nes iddo ymddeol yn 1982.
Ef oedd golygydd y cylchgrawn Taliesin o 1965 hyd 1987. Cyhoeddodd ddau gasgliad o storïau byrion gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas. Yn 1990 derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru am ei gofiant i Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1988. Yn yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu farw 22 Awst 1992.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn dri grŵp: Rhodd 2000, Rhodd 1975 a Phryniad 2005-2006.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen. Gweler hefyd yr amodau arbennig o ran cael mynediad i'r dyddiaduron (cyfres PA2).

Acquisition Information

1-9: Mrs Gwyneth Lloyd; Maerdy, Corwen; Rhodd; Mai 2000; A2000/28.
PL1/2 a PL2/4: Mr Dafydd Timothy; Y Rhyl; Pryniad; Awst 2005.
HSBC Trust Company (UK) Ltd, Sheffield, ysgutorion y ddiweddar Mrs Gwyneth E. Lloyd; Pryniad; Mawrth 2006.
E/1-E/3: D. Tecwyn Lloyd; Caerfyrddin; Rhodd; Gorffennaf 1975.
PL1/1: Mr Norman Macdonald; Books4U, Yr Wyddgrug; Pryniad; Tachwedd 2005.
PL2/1: Dr T. E. Franklinos; Rhydychen; Rhodd; Awst 2017; 99204332002419.

Note

Golygydd, ysgrifwr a beirniad llenyddol oedd D. Tecwyn Lloyd. Fe'i ganwyd ar Fferm Penybryn, Glanrafon, ger Y Bala, ar 22 Hydref 1914 yn fab i John a Laura Lloyd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn y Gymraeg yn 1937 wedi iddo fynychu Ysgol y Cyngor Glanrafon (Llawrybetws) ac Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala. Dilynodd gwrs Ymarfer Dysgu a gadael Bangor yn 1938. Yn 1955 priododd Frances Killen a bu hi farw yn 1980. Yn 1984 priododd Gwyneth Owen.
Bu'n gweithio gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1938-1946, ac wedi hynny fel darlithydd a llyfrgellydd yng Ngholeg Harlech, 1946-1955. Bu'n gyfarwyddwr Cwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam ac yn is-olygydd Y Cymro, 1956-1961. Yn 1961 derbyniodd radd MA Prifysgol Lerpwl ac fe'i penodwyd yn aelod o staff Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru Aberystwyth a symudodd i fyw i ardal Caerfyrddin. Yn 1980 dychwelodd i'w hen ardal, i Maes yr Onnen, Maerdy, Corwen, gan deithio i'r de yn wythnosol gyda'i waith nes iddo ymddeol yn 1982.
Ef oedd golygydd y cylchgrawn Taliesin o 1965 hyd 1987. Cyhoeddodd ddau gasgliad o storïau byrion gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas. Yn 1990 derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru am ei gofiant i Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1988. Yn yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu farw 22 Awst 1992.

Mae’r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Tecwyn Lloyd, a’r dyddiad olaf wedi iddo farw, oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo ac aelodau eraill ei deulu.

Archivist's Note

Hydref 2001 a Mawrth 2011.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Ysgrifau coffa 1992 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru); Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); Edwards, Elwyn (gol.), Bro a Bywyd D. Tecwyn Lloyd 1914-1992 (Treforys, 1997); Thomas, Gwyn, Byd D. Tecwyn Lloyd (Darlith Goffa D. Tecwyn Lloyd, Y Ddarlith Lenyddol yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 1997);

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol. Mae hawlfraint Tecwyn Lloyd yn eiddo i'r elusennau canlynol: Shelter Cymru, y Samariaid, a Byddin yr Iachawdwriaeth.

Appraisal Information

Action: Gwaredwyd papurau ariannol, dyblygion o gylchlythyrau'r Academi Gymreig a thaflenni/mapiau a gynlluniwyd gan Tecwyn Lloyd ar gyfer ei ddosbarthiadau Efrydiau Allanol a ffurflenni gwag Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dinistriwyd papurau ariannol a chatalogau, 1973-1977, yn ymwneud â chwmni gemwaith Frances Lloyd (Meini Marthwyn). Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2011/1..

Custodial History

Bu'r papurau yn nwylo ei weddw Gwyneth Lloyd wedi ei farwolaeth yn 1992 a hyd ei marwolaeth hithau yn 2005.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn annhebygol.

Related Material

Mae cyfrol o'i eiddo yn NLW MS 23943B; ceir dalen litwrgaidd yn NLW MS 23945. Trosglwyddwyd dogfen yn ymwneud ag apwyntio Syr Robert Mends yn Gapten ar long yr Owen Glendower, 1822, i NLW ex 2742. Ychwanegwyd dwy gyfrol at Bapurau Hughes a'i Fab a rhai papurau at Gofysgrifau Capel Glan'rafon. Ceir llungopi o ddyddiadur John Meirion Jones mewn teipysgrif, yn cofnodi taith i'r Alban, Awst 1943, dan arweiniad D. Tecwyn Lloyd, ei athro Ysgol Sul, gyda nodiadau ychwanegol yn llaw’r awdur, 2008, yn NLW Facs 1088. Cyhoeddwyd y dyddiadur mewn rhannau yn Yr Aelwyd ym 1944. Trosglwyddwyd catalog arwerthiant y Llanelly a Kidwelly Estate i'r Uned Defnyddiau Di-destun, ffotograffau i gasgliad ffotograffau LlGC a phortread ohono i'r casgliad portreadau. Gweler hefyd ddisgrifiadau cyfres/ffeil.
Mae traethawd PhD Ieuan Parri (Prifysgol Bangor, 2008) gyda’r teitl ‘Bywyd a gwaith David Tecwyn Lloyd (1914-1992)’ ar gael yn LlGC (2008/0716).

Additional Information

Published