Archif John Eilian

Scope and Content

Papurau John Eilian, 1911-2018, yn cynnwys gohebiaeth, ei awdl ‘Maelgwn Gwynedd’, awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1947, a'r bryddest ‘Meirionnydd’ y dyfarnwyd iddo'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949, a cherddi eraill ganddo; papurau’n deillio o’i gyfnod fel newyddiadurwr; ac erthyglau ganddo a gyhoeddwyd mewn cylchgronau. = Papers, 1911-2018, of John Eilian, comprising correspondence, his poem in strict metre ‘Maelgwn Gwynedd’ which was awarded the chair at The National Eisteddfod held at Colwyn Bay in 1947, and the winning crown poem ‘Meirionnydd’ at The National Eisteddfod at Dolgellau in 1949 and other poems by him; papers relating to his work as a journalist; and articles published in periodicals.

Administrative / Biographical History

Yr oedd John Eilian yn brifardd a newyddiadurwr ac yn sefydlydd Y Cymro a’r Ford Gron. Ganwyd John Thomas Jones ar 29 Tachwedd 1903 yn Marsden, Tyne a Wear, ond cafodd ei fagu gan ei nain yn Llaneilian, Ynys Môn. Nodir ei flwyddyn geni fel 1904 mewn ffynonellau printiedig ac ar y plac ar ei gartref ym Mhenylan, Pen-sarn, Ynys Môn, a ddadorchuddiwyd yn 2004. Newidiodd ei enw canol o Thomas i Tudor yn y 1930au. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Dechreuodd weithio fel gohebydd i’r Western Mail yn 1924. Golygodd gyfres o ugain o lyfrynnau o glasuron Cymraeg Y Ford Gron, 1931-1932 . Bu’n bennaeth hefyd ar raglenni’r BBC yng Nghaerdydd. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 a’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Cyfieithodd nofelau i blant a geiriau caneuon o’r Saesneg i’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan W. S. Gwynn Williams. Yr oedd yn aelod o Gomisiwn Brenhinol ar y Wasg, 1974-1977.

Arrangement

Trefnwyd yn chwe chyfres yn LlGC.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Goronwy Tudor Jones; Birmingham; Eilian ap Hywel Tudor Jones; Cardiff a Nia Anthony; Rhodd; Medi 2018; 99906439402419

Note

Yr oedd John Eilian yn brifardd a newyddiadurwr ac yn sefydlydd Y Cymro a’r Ford Gron. Ganwyd John Thomas Jones ar 29 Tachwedd 1903 yn Marsden, Tyne a Wear, ond cafodd ei fagu gan ei nain yn Llaneilian, Ynys Môn. Nodir ei flwyddyn geni fel 1904 mewn ffynonellau printiedig ac ar y plac ar ei gartref ym Mhenylan, Pen-sarn, Ynys Môn, a ddadorchuddiwyd yn 2004. Newidiodd ei enw canol o Thomas i Tudor yn y 1930au. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Dechreuodd weithio fel gohebydd i’r Western Mail yn 1924. Golygodd gyfres o ugain o lyfrynnau o glasuron Cymraeg Y Ford Gron, 1931-1932 . Bu’n bennaeth hefyd ar raglenni’r BBC yng Nghaerdydd. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 a’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Cyfieithodd nofelau i blant a geiriau caneuon o’r Saesneg i’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan W. S. Gwynn Williams. Yr oedd yn aelod o Gomisiwn Brenhinol ar y Wasg, 1974-1977.

Defnyddiwyd nodiadau a baratowyd gan y rhoddwr i gyd-fynd â'r papurau fel sail i'r disgrifiadau.
Mae’r dyddiad creu olaf yn ddiweddarach na dyddiad marwolaeth John Eilian oherwydd ceir allbrintiau gan y rhoddwr o waith ei Dad.

Archivist's Note

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Additional Information

Published