Papurau Hugh Roberts ('Yr Hen Idris'), Abergynolwyn,

Scope and Content

Papurau Hugh Roberts, 1877-1902, yn cynnwys penillion a cherddi, dwy ddrama fer ynglŷn â dirwest, nodiadau ac anerchiadau ar y dosbarth gweithiol a hawliau gweithwyr, anerchiadau a llythyrau at y wasg yn esbonio ei ddaliadau gwleidyddol ac yn ymwneud ag ymgyrchoedd etholiadol, nodiadau bywgraffyddol yn manylu ar ei gyfnod yn chwarel Bryneglwys a nodiadau a llythyrau ynghylch hanes Abergynolwyn = Papers of Hugh Roberts, 1877-1902, including verses and poems, two short plays concerning temperance, notes and addresses on the working classes and workers' rights, addresses and letters to the press expounding his political views and relating to election campaigns, autobiographical notes detailing his period at Bryneglwys quarry and notes and letters concerning the history of Abergynolwyn.

Administrative / Biographical History

Yr oedd Hugh Roberts, 'Yr Hen Idris' (1832-1907), yn chwarelwr, hanesydd lleol a hynafiaethydd. Fe'i ganwyd ar 1 Ionawr 1832 ym Mryncrug, sir Feirionnydd. Symudodd gyda'i deulu i Abergynolwyn, sir Feirionnydd, yn 1842. Bu'n gweithio yn chwarel lechi Bryneglwys, sir Feirionnydd, am dros 30 mlynedd, er iddo weithio yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg pan oedd yn ifanc. Daeth yn adnabyddus yn lleol fel hanesydd a hynafiaethydd ac am ei ddaliadau gwleidyddol, gan iddo chwarae rhan flaenllaw yn lleol yn ymgyrch Rhyddfrydwyr sir Feirionnydd yn etholiad 1868. Bu farw yn 1907.

Arrangement

Trefnwyd yn unol â'r cynllun rhifo a fabwysiadwyd gan Elwyn Roberts.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Miss Gwyneth Roberts; Abergynolwyn; Rhodd; 1989

Note

Yr oedd Hugh Roberts, 'Yr Hen Idris' (1832-1907), yn chwarelwr, hanesydd lleol a hynafiaethydd. Fe'i ganwyd ar 1 Ionawr 1832 ym Mryncrug, sir Feirionnydd. Symudodd gyda'i deulu i Abergynolwyn, sir Feirionnydd, yn 1842. Bu'n gweithio yn chwarel lechi Bryneglwys, sir Feirionnydd, am dros 30 mlynedd, er iddo weithio yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg pan oedd yn ifanc. Daeth yn adnabyddus yn lleol fel hanesydd a hynafiaethydd ac am ei ddaliadau gwleidyddol, gan iddo chwarae rhan flaenllaw yn lleol yn ymgyrch Rhyddfrydwyr sir Feirionnydd yn etholiad 1868. Bu farw yn 1907.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mawrth 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Hugh Roberts ('Yr Hen Idris'), Abergynolwyn'; Roberts, Elwyn, Wrth Odre Cadair Idris (Pen-y-groes, Caernarfon, 1989); Roberts, Hugh, 'Hunangofiant hen chwarelwr', Cymru XXXIII (1907), tt.77-82, 139-140;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Custodial History

Darganfuwyd yr archif ymysg papurau disgynnydd y rhoddwr, Elwyn Roberts (1905-1988), trefnydd cenedlaethol Plaid Cymru. Rhifwyd y papurau gan Elwyn Roberts cyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru eu derbyn.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published