Llythyrau oddi wrth Henry Lewis yn y fyddin at Ifor Williams

Scope and Content

Wedi ei glwyfo ac yn myfyrio ar erchylltra'r rhyfel. Holi am Iolo ac am ramadeg Llydaweg i'w astudio.

Wedi darllen adroddiad ar y Brifysgol. Mae'n hoffi syniad o Fwrdd i ofalu am faterion ysgolheictod Celtaidd. Mae wedi bod yn gorwedd er 9 wythnos. Ofni na ddaw WJ fyth i lenwi sgidia yr Athro Powel.

Amryw yn ymweld ag o. Pitio na fuasai Gwenogfryn wedi cadw at ei faes ei hun. Trafod swyddi Prifysgol a Gramadeg John Morris-Jones.

Mae wedi cael caniatâd i godi tipyn bob dydd.