Llythyr oddi wrth Jack [J. Lloyd-Jones], 129 St Lawrence Road, Clontarf, Dublin at Ifor Williams

Scope and Content

Roedd yn dda ganddo ddeall fod y tipyn ymenyn wedi cyrraedd. Prinhau mae pethau yno. Aeth lwfans te i lawr i hanner owns y pen. Tanwydd, glo a mawn yw achos eu pryder mwyaf.

Nid ydynt wedi gorffen gwerthu ty'r Gweinidog eto.

Mae'n siwr for Ifor Williams wedi cael dipyn o hanes y ffrwgwd rhwng Bergin ac O'Rahilly gan John Caerwyn.

Mae am anfon stwff i'r BBGC.

Anghofiodd ei longyfarch ar gael ei wneud yn Gadeirydd y Bwrdd Celtaidd.