Papurau Walter Rees Jones (Birkenhead)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion amrywiol a gasglwyd ynghyd gan Walter Rees Jones (ynghyd ag ambell eitem a etifeddodd oddi wrth ei dad Rees Jones) yn ymdrin â bywyd Cymraeg Birkenhead. Ceir yn eu plith cofnodion eglwysi anghydffurfiol, 1883-1997; papurau'n ymwneud ag eisteddfodau, 1918-1969; cofnodion Cymdeithas Cymry Birkenhead, 1968-2001; a thorion papur newydd a theipysgrifau o'r wasg, 1947-1960, a theyrngedau a thaflenni angladdol, 1953-2001.

Administrative / Biographical History

Roedd Walter Rees Jones (1922-2001), Claughton, Birkenhead, yn un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas Gymraeg Birkenhead. Yng nghapel Salem, Laird Street roedd yn flaenor, yn drysorydd ac yn ysgrifennydd y cyhoeddiadau. Roedd yn unigolyn rhyfeddol o amryddawn: llenor talentog, eisteddfodwr brwd, actor a chynhyrchydd, darllenydd eang ei ddiddordebau. Treuliodd ei oes yn Birkenhead.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn bedwar grŵp: cofnodion anghydffurfiol; cofnodion eisteddfodau; cofnodion Cymdeithas Cymry Birkenhead; a deunydd printiedig gan gynnwys colofnau o'r wasg a thaflenni angladdol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Rhodd gan Mrs Mair Rees Jones, Birkenhead, gweddw Walter Rees Jones, Ebrill 2002.; 0200205644

Note

Roedd Walter Rees Jones (1922-2001), Claughton, Birkenhead, yn un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas Gymraeg Birkenhead. Yng nghapel Salem, Laird Street roedd yn flaenor, yn drysorydd ac yn ysgrifennydd y cyhoeddiadau. Roedd yn unigolyn rhyfeddol o amryddawn: llenor talentog, eisteddfodwr brwd, actor a chynhyrchydd, darllenydd eang ei ddiddordebau. Treuliodd ei oes yn Birkenhead.

Archivist's Note

Awst 2002

Lluniwyd gan J. Graham Jones.

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r disgrifiad: Y Ddolen, 12 Mai 2001, 10-11.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl bapurau a roddwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau at y casgliad yn annhebygol.

Related Material

Ceir rhifynnau o'r Ddolen a dderbyniwyd gyda'r papurau hyn yn LlGC.

Additional Information

Published