CMA: Cofysgrifau Eglwys Carmel, Llanilar,

Scope and Content

Cofysgrifau, 1814-1966, yn perthyn i Eglwys Carmel, Llanilar, gan gynnwys cofrestr bedyddiadau, 1814-1890, llyfrau ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1899-1958, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1872-1970, a chofrestr aelodau'r Gymdeithas Ddirwest, 1894-1908. Mae pedair cyfrol yn perthyn i Ysgoldy Cilcwm, 1885-1966.

Administrative / Biographical History

Ni wyddys pryd yn union y rhoddwyd yr enw Carmel ar yr Eglwys. Fe'i cofrestrwyd fel 'Llanilar Chapel' yn y llys esgobol yn 1817 ac fel lle o addoliad yn 1852. Ychwanegwyd galeri, stabl ac ysgoldy yn 1851. Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yn Llanilar tua 1798 ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd pedair Ysgol Sul sef Carmel, Pantglas, Cilcwm a'r Dyffryn. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol ar 20-21 Medi 1880 i ddathlu codi'r capel newydd.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddau grŵp: Adnau 1974 ac Adnau 2005.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Swyddogion Eglwys Carmel, Llanilar, trwy law Mr R. Ll. Jones, Llanilar; Adnau; Mai 1974
Mr Keith Rowlands; Llanfarian; Adnau; Hydref 2005; 0200512171.

Note

Ni wyddys pryd yn union y rhoddwyd yr enw Carmel ar yr Eglwys. Fe'i cofrestrwyd fel 'Llanilar Chapel' yn y llys esgobol yn 1817 ac fel lle o addoliad yn 1852. Ychwanegwyd galeri, stabl ac ysgoldy yn 1851. Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yn Llanilar tua 1798 ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd pedair Ysgol Sul sef Carmel, Pantglas, Cilcwm a'r Dyffryn. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol ar 20-21 Medi 1880 i ddathlu codi'r capel newydd.

Archivist's Note

Medi 2008 a Mai 2010.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Eifion Evans, Godidowgrwydd Carmel, Hanes Carmel, Llanilar, 1742-1979;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Ceir hanes yr achos yn Godidowgrwydd Carmel, Hanes Carmel, Llanilar, 1742-1979 (CMA EZ3/27), ac adroddiadau blynyddol, 1901-1975 (gyda bylchau) yn LLGC. Ceir cofrestr bedyddiadau'r capel, 1841-1837, yn yr Archifdy Gwladol, PRO: RG9/4013 a RG10/4014 (copïau microffilm yn LlGC).

Additional Information

Published