CMA: Cofysgrifau Capel Berea, Glanadda, Bangor

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion gweinyddol, 1866-1989, gan gynnwys cofrestri'r capel, 1866-1974, a chofnodion pwyllgorau amrywiol, 1891-1971; cofnodion ariannol, 1856-2000; hanes yr achos a'r capel, 1935-1975; a phapurau amrywiol, 1897-1999.

Administrative / Biographical History

Cychwynnwyd yr achos yn yr ardal ym 1857 ac agorwyd drysau capel Berea, Glanadda, ym 1860 ar draul o £300. Roedd eisteddleoedd ar gyfer 200 o bobl o fewn y capel gwreiddiol. Ailadeiladwyd y capel ym 1881 gydag eisteddleoedd ar gyfer 300. Parhaodd y ddyled a gododd yn sgîl yr ailadeiladu tan y flwyddyn 1900. Yn fuan datblygodd achos cenhadol pwysig mewn cysylltiad â'r capel. Daeth i chwarae ran ganolog ym mywyd yr ardal a'r plwyf drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Caeodd ei drysau am y tro olaf yn 2002 a dymchwelwyd y capel yng Ngorffennaf yr un flwyddyn.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn bedwar grŵp: cofnodion gweinyddol, cofnodion ariannol, hanes yr achos, a phapurau amrywiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Robert M. Morris, Pen-y-groes, Gorffennaf 2002.; 0200210129

Note

Cychwynnwyd yr achos yn yr ardal ym 1857 ac agorwyd drysau capel Berea, Glanadda, ym 1860 ar draul o £300. Roedd eisteddleoedd ar gyfer 200 o bobl o fewn y capel gwreiddiol. Ailadeiladwyd y capel ym 1881 gydag eisteddleoedd ar gyfer 300. Parhaodd y ddyled a gododd yn sgîl yr ailadeiladu tan y flwyddyn 1900. Yn fuan datblygodd achos cenhadol pwysig mewn cysylltiad â'r capel. Daeth i chwarae ran ganolog ym mywyd yr ardal a'r plwyf drwy gydol yr ugeinfed ganrif. Caeodd ei drysau am y tro olaf yn 2002 a dymchwelwyd y capel yng Ngorffennaf yr un flwyddyn.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Archivist's Note

Rhagfyr 2002.

Lluniwyd gan J. Graham Jones.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon: dosbarth Bangor (Bangor, 1924); Williams, E. R. Canmlwyddiant Berea Glanadda, Bangor, 1860-1960.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Related Material

Ceir copïau o adroddiadau blynyddol Capel Berea, 1953-2001, yn LlGC.

Additional Information

Published