Papurau Alarch Ogwy,

Scope and Content

Mae'r archif yn cynnwys fersiynau gwreiddiol llawysgrif o lawer o'i gynnyrch llenyddol, yn cynnwys barddoniaeth a thraethodau [c.1880]-1913, a dwy ddrama [c.1941]; torion o'r wasg a deunydd printiedig arall yn gysylltiedig â gweithgareddau Cymdeithas Unedig y Glowyr, Rhanbarthau Castell Nedd, Abertawe a Llanelli,1879-1894, a gohebiaeth, 1890-1939, yn enwedig â Syr Samuel Thomas Evans, AS = Contains original manuscripts of much of his literary output, including poetry and essays, [c. 1880]-1913, and two dramas, [c. 1941]; newspaper cuttings and other printed material relating to the activities of the Amalgamated Association of Miners, Neath, Swansea and Llanelli Districts, 1879-1894; and correspondence, 1890-1939, especially with Sir Samuel Thomas Evans, MP.

Administrative / Biographical History

Yr oedd 'Alarch Ogwy', James Clement (1862-1943), o Sgiwen, Castell Nedd, Morgannwg, yn löwr, yn fardd ac yn ddramodydd. Aeth i weithio fel glöwr pan yn 13 mlwydd oed ac ef oedd Cadeirydd cyntaf Cymdeithas Unedig Glofeydd Rhanbarth Gorllewinol Maes glo De Cymru. Roedd yn aelod weithgar yng Ngorffwysfa, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Sgiwen, gan weithredu fel Ysgrifennydd a bu'n flaenor am nifer o flynyddoedd. Roedd hefyd yn aelod o sawl mudiad diwylliannol, yn cynnwys Pwyllgor Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol 1918 a 1932. Roedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd, yn ennill tua phymtheg cadair am ei gyfansoddiadau llenyddol, a bu'n feirniad eisteddfodol. Cyhoeddodd rhai o'i gerddi a'i ddramâu, yn ogystal â dogfennau yn ymwneud â'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw ar 7 Mawrth 1943, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym Mynwent Sgiwen.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: cyfansoddiadau eisteddfodol; dramâu, torion o'r wasg; a gohebiaeth.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mr Jon Clement; Llanelli; Rhodd; 1949

Note

Yr oedd 'Alarch Ogwy', James Clement (1862-1943), o Sgiwen, Castell Nedd, Morgannwg, yn löwr, yn fardd ac yn ddramodydd. Aeth i weithio fel glöwr pan yn 13 mlwydd oed ac ef oedd Cadeirydd cyntaf Cymdeithas Unedig Glofeydd Rhanbarth Gorllewinol Maes glo De Cymru. Roedd yn aelod weithgar yng Ngorffwysfa, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Sgiwen, gan weithredu fel Ysgrifennydd a bu'n flaenor am nifer o flynyddoedd. Roedd hefyd yn aelod o sawl mudiad diwylliannol, yn cynnwys Pwyllgor Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol 1918 a 1932. Roedd yn gystadleuydd eisteddfodol brwd, yn ennill tua phymtheg cadair am ei gyfansoddiadau llenyddol, a bu'n feirniad eisteddfodol. Cyhoeddodd rhai o'i gerddi a'i ddramâu, yn ogystal â dogfennau yn ymwneud â'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw ar 7 Mawrth 1943, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym Mynwent Sgiwen.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog, gyda'r teitl 'Rhestr o Bapurau Alarch Ogwy' ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Archivist's Note

Medi 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Alarch Ogwy;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published