CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r Capel a'r Ysgol Sul, [c.1851]-1999.

Administrative / Biographical History

Pentre bychan rhwng Margam a'r Pîl yw Heol Tre-Dŵr neu Water Street. Cyn i'r capel gael ei godi, byddai'r aelodau wedi mynychu Capel y Pîl, ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, penderfynwyd sefydlu achos lleol yn y pentref. Cynhaliwyd Ysgol Sul i gychwyn yng nghartref un William Hugh ar ddechrau pum degau'r ganrif honno, ac yn fuan wedyn cafwyd yr hawl gan Eglwys y Pîl i godi capel yn y pentref. Caewyd y Capel ym 1994 o ganlyniad i fandaliaeth cynyddol a thân i'r adeilad.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddau grŵp: cofysgrifau'r capel a chofysgrifau'r Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Jenkin Wilde, Ysgrifennydd Dosbarth Pen-y-bont ar Ogwr, Mai 2000.

Note

Pentre bychan rhwng Margam a'r Pîl yw Heol Tre-Dŵr neu Water Street. Cyn i'r capel gael ei godi, byddai'r aelodau wedi mynychu Capel y Pîl, ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, penderfynwyd sefydlu achos lleol yn y pentref. Cynhaliwyd Ysgol Sul i gychwyn yng nghartref un William Hugh ar ddechrau pum degau'r ganrif honno, ac yn fuan wedyn cafwyd yr hawl gan Eglwys y Pîl i godi capel yn y pentref. Caewyd y Capel ym 1994 o ganlyniad i fandaliaeth cynyddol a thân i'r adeilad.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Mai 2003

Lluniwyd gan Merfyn Tomos ac Owain Schiavone.

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Roberts, Gomer M., Bethel, Heol Tre-Dŵr, 1852-1952. Braslun o hanes yr Eglwys (1952).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Ni ddisgwylir unrhyw ychwanegiadau

Bibliography

Roberts, Gomer M., Bethel Heol Tre-Dŵr, 1852-1952. Braslun o Hanes yr Eglwys (1952).

Additional Information

Published