Llawysgrifau'r Parch. John Williams, Aberystwyth,

Scope and Content

Papurau a fu'n eiddo i'r Parch. John Williams a'i deulu, 1824-1895, yn cynnwys ei lyfr lloffion, [19 gan., ail ½], pregethau ac anerchiadau, [c. 1850]-1895, papurau teuluol, [c. 1826]-1879, deunydd yn ymwneud â Chapel y Tabernacl, Aberystwyth, 1850-1878, cofnodion Cyfarfod Athrawon Sir Aberteifi, 1824-1836, a llyfr cyfrifon ar gyfer y sgwner 'Hope', [1850]-1860. = Papers belonging to the Rev. John Williams and his family, 1824-1895, including his scrapbook, [19 cent., second ½], sermons and addresses, [c. 1850]-1895, family papers, [c. 1826]-1879, materials relating to the Tabernacl chapel, Aberystwyth, 1850-1878, records of Cyfarfod Athrawon Sir Aberteifi, 1824-1836, and an account book of the schooner 'Hope', [1850]-1860.

Administrative / Biographical History

Roedd y Parch. John Williams (1826-1898), Aberystwyth, yn fab i John Williams, masnachwr, a'i wraig Mary (1795-1875). Daeth yn ddirwestwr mawr a sefydlodd 'Band of Hope' yng Nghapel y Tabernacl, Aberystwyth, ym 1852. Daeth yn flaenor yn y capel hwnnw ym 1860 a chafodd ei ordeinio yn weinidog ym 1868. Roedd yn flaenllaw mewn amryw o weithgareddau yn Aberystwyth. Roedd gan John Williams ddwy ferch, yr Athro Mary Williams (?1882-1977) a Jane (neu Jennie) Williams (yn ddiweddarach Ruggles-Gates) (m. 1971), ac un mab, John. Bu farw ar 31 Rhagfyr 1898.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 16217-16224.

Access Information

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

NLW MS 16217D; Mrs [Jennie] Ruggles-Gates, merch y Parch. John Williams; Llundain; Rhodd; Awst 1941
NLW MSS 16218-16224; Dr Mary Williams, merch y Parch. John Williams; Abertawe; Rhodd; Mehefin 1940

Note

Roedd y Parch. John Williams (1826-1898), Aberystwyth, yn fab i John Williams, masnachwr, a'i wraig Mary (1795-1875). Daeth yn ddirwestwr mawr a sefydlodd 'Band of Hope' yng Nghapel y Tabernacl, Aberystwyth, ym 1852. Daeth yn flaenor yn y capel hwnnw ym 1860 a chafodd ei ordeinio yn weinidog ym 1868. Roedd yn flaenllaw mewn amryw o weithgareddau yn Aberystwyth. Roedd gan John Williams ddwy ferch, yr Athro Mary Williams (?1882-1977) a Jane (neu Jennie) Williams (yn ddiweddarach Ruggles-Gates) (m. 1971), ac un mab, John. Bu farw ar 31 Rhagfyr 1898.

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Archivist's Note

Chwefror 2014.

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Moelwyn I. Williams, Y Tabernacl, Aberystwyth : Hanes yr Achos, 1785-1985 (Aberystwyth, 1986); The Times, 31 Hydref 1977, p. 14;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Related Material

Gweler hefyd LlGC, Mary Williams Papers, sydd yn cynnwys rhai papurau teuluol.

Additional Information

Published