Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd

Scope and Content

Cofnodion Cymdeithas Edward Llwyd, yn cynnwys: cyfansoddiad y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd blynyddol; cofnodion y Pwyllgor Gwaith, yr Is-bwyllgor Monograffig, yr Is-bwyllgor Marchnata, yr Is-bwyllgor Enwau a Thermau, ac Is-bwyllgor yr Amgylchedd; gohebiaeth; ceisiadau am grantiau; papurau ariannol; a phapurau aelodaeth. = Records of Cymdeithas Edward Llwyd (the Edward Llwyd Society), including: the Society's constitution; minutes of annual meetings; records of the Working Committee, the Monographic Sub-Committee, the Marketing Sub-Committee, the Names and Terms Sub-Committee, and the Environment Sub-Committee; correspondence; applications for grants; financial papers; and membership papers.

Administrative / Biographical History

Cymdeithas astudiaethau natur Cymraeg yw Cymdeithas Edward Llwyd, sy'n gweithredu er mwyn hybu ymwybyddiaeth am fyd natur trwy gyfrwng y Gymraeg, i ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru, ac i gefnogi ymchwil yn y meysydd hynny. Fe'i sefydlwyd gan Dafydd Davies, Rhandirmwyn, ym 1978, gan fabwysiadu enw'r naturiaethwr, daearyddwr ac ieithydd Edward Llwyd / Lhuyd (1660-1709). Mae'r Gymdeithas yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a mae hi'n cyhoeddi cylchgrawn achlysurol o'r enw 'Y Naturiaethwr'. Cynhelir darlithiau, gweithgareddau gwarchodaethol a theithiau cerdded yn rheolaidd ledled Cymru, gan ymddiddori ym mhob agwedd o natur ac amgylchedd y wlad. Mae'r Gymdeithas hefyd yn codi arian ar gyfer prosiectau ymchwil, sy'n cael eu cyllido fel arfer trwy gyntundebau cymhorthdal gyda sefydliadau fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn bedair gyfres: Cofnodion pwyllgorau a chyfarfodydd; Gohebiaeth; Cofnodion ariannol; ac Aelodaeth. Dilynwyd y drefn a roddwyd ar yr archif gan y Gymdeithas. Arfer swyddogion y Gymdeithas yn aml oedd i gyfuno gwahanol mathau o gofnodion mewn ffeiliau, weithiau yn ôl gwaith pwyllgorau arbennig, neu yn ôl pwnc, neu yn ôl math o gofnodion, neu yn ôl dyddiad, neu yn achlysurol fel arall. Mae hyn yn golygu bod rhai o'r ffeiliau yn weddol gymysg, a bod rhai wybodaeth wedi'i gwasgaru ar hyd yr archif. Noder hefyd nad yw'r dyddiadau a ysgrifennwyd ar rai ffeiliau gan y Gymdeithas bob amser yn adlewyrchu'r cynnwys yn gwbl gywir.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Cymdeithas Edward Llwyd, trwy law Tom Jones ; Garndolbenmaen ; Adnau ; Medi 2009 a Rhagfyr 2014; 004697337

Note

Cymdeithas astudiaethau natur Cymraeg yw Cymdeithas Edward Llwyd, sy'n gweithredu er mwyn hybu ymwybyddiaeth am fyd natur trwy gyfrwng y Gymraeg, i ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru, ac i gefnogi ymchwil yn y meysydd hynny. Fe'i sefydlwyd gan Dafydd Davies, Rhandirmwyn, ym 1978, gan fabwysiadu enw'r naturiaethwr, daearyddwr ac ieithydd Edward Llwyd / Lhuyd (1660-1709). Mae'r Gymdeithas yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a mae hi'n cyhoeddi cylchgrawn achlysurol o'r enw 'Y Naturiaethwr'. Cynhelir darlithiau, gweithgareddau gwarchodaethol a theithiau cerdded yn rheolaidd ledled Cymru, gan ymddiddori ym mhob agwedd o natur ac amgylchedd y wlad. Mae'r Gymdeithas hefyd yn codi arian ar gyfer prosiectau ymchwil, sy'n cael eu cyllido fel arfer trwy gyntundebau cymhorthdal gyda sefydliadau fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Mae nifer o gylchgronau a thua 500 o ffotograffau heb gael eu catalogio eto [vtls 4697338].

Archivist's Note

Mehefin 2015.

Lluniwyd y disgrifiad hwn gan David Moore. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth baratoi'r disgrifiad: gwefan Cymdeithas Edward Llwyd (gwelwyd 5 Mai 2015); papurau o fewn yr archif;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, heblaw am fwndel o lyfrau adneuon banc. Cytunwyd mewn sgwrs rhwng Rhiannon Michaelson-Yeates (ar ran LlGC) a Tom Jones (ar ran y Gymdeithas), 11 Medi 2009, i waredu ar lyfrau banc, ond cadwyd y llyfrau sieciau gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth sylweddol am weithrediad ariannol y Gymdeithas nas ceir yn unman arall..

Custodial History

Crynhowyd yr archif gan swyddogion y Gymdeithas cyn ei hadneuo yn LlGC.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Additional Information

Published