Llythyr: E. Cynolwyn Pugh, 10 Glas Dyfrig, Whitchurch, Cardiff at y Parch H. Llewelyn Willams, M.A., Henryd, Valley

Scope and Content

LLYTHYR: E. Cynolwyn Pugh, 10 Glas Dyfrig, Whitchurch, Cardiff at y Parch H. Llewelyn Willams, M.A., Henryd, Valley yn diolch iddo am y geiriau caredig a ddywedodd yn y Drysorfa am y "Ffanffer". Erbyn hyn mae wedi gweld dros ugain o adolygiadau o phob yn ohonynt yn or-ganmolus. Mae yn trafod ymholiad Mr. Williams ac yn sôn am Goleg Madison, y lle sy'n debygol o fod wedi rhoi y gradd iddo. Yr anhawster yw, prun Madison? Y mae hanner dwsin ohonynt, o leiaf, mewn gwahanol Deleithiau, sef yn Wisconsi, Ohio, etc. Yn y cyfnod pan ymwelai Thomas Williams a'r America yr oedd rhyw frawd yn Ohio a roddai dystysgrifau a D.D. arnynt am dal. "Ioan y Llan" neu rywbeth fel yna oedd ei enw. Petai Cynolwyn Pugh wedi aros yn yr America dichon y buasai yntau wedi derbyn y radd ond gwell oedd ganddo fyw yng Nghymru hebddi. Cafodd gwmni cor yr Heddlu o Gaergybi ym Manceinion, bechgyn braf ac yn canu yn dda dros ben.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition