Dewi-Prys Thomas Papers,

Scope and Content

Mae'r archif yn cynnwys gohebiaeth yr Athro Dewi-Prys Thomas, yn ymwneud bron yn gyfan gwbl â'i waith fel ymgynghorydd pensaernïol i Wyn Thomas & Partners, Caerdydd, wrth gynllunio Swyddfeydd newydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon,1979-1985; ysgrifau coffa, teyrngedau, a llythyrau,1985-1987, ynglŷn â ffïoedd ar ôl ei farwolaeth; a phapurau amrywiol,1936-[1979] = The fonds comprises the correspondence of Professor Dewi-Prys Thomas, relating almost exclusively to his work as architectural consultant to Wyn Thomas & Partners, Cardiff, while designing the new Gwynedd County Offices in Caernarfon, 1979-1985; obituaries, tributes, and letters, 1985-1987, concerning his fees following his death; and miscellaneous papers, 1936-[1979].

Administrative / Biographical History

Yr oedd Dewi-Prys Thomas yn bensaer ac Athro Pensaernïaeth yng Ngholeg Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd, 1965-1981, ac ef oedd Athro Pensaernïaeth gyntaf Prifysgol Cymru. Cafodd ei eni yn Lerpwl yn 1916, yn fab i Dan Thomas, a fu'n gyfrwng i sefydlu Plaid Cymru, ac yn ddisgynnydd i Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse, 1807-1889); derbyniodd ei addysg uwchradd ac uwch yn y ddinas honno. Yn fyfyriwr enillodd Dewi-Prys Thomas lawer o wobrwyon ac ysgoloriaethau a chafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1938 yng Ngholeg Pensaernïaeth Prifysgol Lerpwl. Yn 1947 cafodd ei apwyntio yn ddarlithydd yn ei hen goleg. Daeth i Gaerdydd yn 1940 i weithio ym mhractis T. Alwyn Lloyd a gwnaeth enw iddo'i hun fel actor ar y radio ac ar lwyfan, a bu'n weithgar ym mywyd gwleidyddol Cymru. Creodd y darluniau ar gyfer llyfr T. Rowland Hughes, O law i law (Llandysul, 1943) a Hunangofiant Tomi gan E. Tegla Davies (Bangor, 1947). Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, cynlluniodd Talar Wen, Llangadog, i'w frawd-yng-nghyfraith Gwynfor Evans a Rhiannon (Nannon) ei wraig. Yn 1959 cynlluniodd yr 'House of the Year' yn Woolton, Lerpwl, i'r Woman's Journal, a Thŷ Cwrdd y Crynwyr yn Heswall, Cilgwri. Yr oedd Dewi-Prys Thomas yn aelod o lawer cymdeithas ac yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, ac yn 1970 fe'i hapwyntiwyd yn Gomisiynydd gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Er iddo ymddeol yn 1981 parhaodd i weithredu fel ymgynghorydd i Wyn Thomas a'i Bartneriaid, cwmni o benseiri lleol, y bu'n gweithio â hwy ers 1974. Chwaraeodd ran flaenllaw gyda chynllunio Swyddfeydd Sir Gwynedd yng Nghaernarfon fel pensaer ymgynghorol i'r cwmni hwn. Bu farw yn 1985.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn bedair cyfres: Pencadlys Gwynedd: papurau pensaernïol; Pencadlys Gwynedd: arlunio pensaernïol; ysgrifau coffa a theyrngedau; a phapurau amrywiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mr Wyn Thomas,; Caerdydd,; Rhodd,; Tachwedd 2000

Note

Yr oedd Dewi-Prys Thomas yn bensaer ac Athro Pensaernïaeth yng Ngholeg Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd, 1965-1981, ac ef oedd Athro Pensaernïaeth gyntaf Prifysgol Cymru. Cafodd ei eni yn Lerpwl yn 1916, yn fab i Dan Thomas, a fu'n gyfrwng i sefydlu Plaid Cymru, ac yn ddisgynnydd i Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse, 1807-1889); derbyniodd ei addysg uwchradd ac uwch yn y ddinas honno. Yn fyfyriwr enillodd Dewi-Prys Thomas lawer o wobrwyon ac ysgoloriaethau a chafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1938 yng Ngholeg Pensaernïaeth Prifysgol Lerpwl. Yn 1947 cafodd ei apwyntio yn ddarlithydd yn ei hen goleg. Daeth i Gaerdydd yn 1940 i weithio ym mhractis T. Alwyn Lloyd a gwnaeth enw iddo'i hun fel actor ar y radio ac ar lwyfan, a bu'n weithgar ym mywyd gwleidyddol Cymru. Creodd y darluniau ar gyfer llyfr T. Rowland Hughes, O law i law (Llandysul, 1943) a Hunangofiant Tomi gan E. Tegla Davies (Bangor, 1947). Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, cynlluniodd Talar Wen, Llangadog, i'w frawd-yng-nghyfraith Gwynfor Evans a Rhiannon (Nannon) ei wraig. Yn 1959 cynlluniodd yr 'House of the Year' yn Woolton, Lerpwl, i'r Woman's Journal, a Thŷ Cwrdd y Crynwyr yn Heswall, Cilgwri. Yr oedd Dewi-Prys Thomas yn aelod o lawer cymdeithas ac yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, ac yn 1970 fe'i hapwyntiwyd yn Gomisiynydd gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Er iddo ymddeol yn 1981 parhaodd i weithredu fel ymgynghorydd i Wyn Thomas a'i Bartneriaid, cwmni o benseiri lleol, y bu'n gweithio â hwy ers 1974. Chwaraeodd ran flaenllaw gyda chynllunio Swyddfeydd Sir Gwynedd yng Nghaernarfon fel pensaer ymgynghorol i'r cwmni hwn. Bu farw yn 1985.

Mae'r dyddiadau creu yn mynd ymhellach na chyfnod bywyd Dewi-Prys Davies, gan fod y papurau yn cynnwys eitemau megis gohebiaeth ariannol,1986-1987, a gyfeiriwyd at Wyn Thomas, y rhoddwr, yn ymwneud â ffioedd oedd yn ddyledus yn dilyn gwaith y cyntaf ar Swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, a phamffled ar Bencadlys Gwynedd a gyhoeddwyd yn 1991.

Other Finding Aids

Mae copi caled o gymorth chwilio ar gael yn LlGC.

Archivist's Note

Tachwedd 2001.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Welsh Architect (Cylchgrawn newyddion Cymdeithas Penseiri Cymru), Chwefror 1986; Ysgrifau Coffa-Obituaries 1985 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru,1986)

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd holl bapurau Dewi-Prys Thomas a gyflwynwyd yn rhodd i LlGC..

Custodial History

Bu papurau Dewi-Prys Thomas yng ngofal Mr Wyn Thomas ers marwolaeth y pensaer yn 1985.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir cynlluniau pensaernïol adeiladau yn cynnwys Pencadlys Gwynedd yn LlGC, Casgliadau Mapiau.

Additional Information

Published