Papurau Owen Parry,

Scope and Content

Papurau Owen Parry, Llanegryn, hynafiaethydd, yn cynnwys grŵp sylweddol o farddoniaeth a phapurau William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd', 1827-1904; nodiadau ar y diwydiant wlân,1696-1780; llawysgrif o bregethau ac emynau gan Thomas Phillips, Neuadd-lwyd,1809; papurau'n ymwneud ag Arwest Glan Geirionydd, 1890-1896, ac Eisteddfodau, 1878-1890; cofnodion dau ddosbarth efrydiau allanol dan arweiniad y rhoddwr,1929-30; arolygon ac adroddiadau'n ymwneud â Thywyn, Ffestiniog, sir Feirionnydd a Dolgellau, 1940-1957; chwe dogfen a oedd gynt yn eiddo i gyfreithiwr o Amlwch, 1793-1914 = Papers of Owen Parry, Llanegryn, antiquary, including a significant group of poetry and papers of William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd', 1827-1904; notes on the woollen industry, 1696-1780; a manuscript of sermons and hymns by Thomas Phillips, Neuadd-lwyd, 1809; papers relating to Arwest Glan Geirionydd, 1890-1896, and to Eisteddfodau, 1878-1890; minutes of two extra-mural classes conducted by the donor, 1929-30; surveys and reports relating to Towyn, Ffestiniog, Meirionethshire and Dolgellau, 1940-1957; six documents previously belonging to a solicitor from Amlwch, 1793-1914.

Administrative / Biographical History

Hynafiaethydd o Lanegryn, sir Feirionnydd oedd Owen Parry, a gasglodd fel rhan o'i lyfrgell bapurau William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd' (1827-1904), bardd ac argraffydd.

Arrangement

Trefnwyd yn gronolegol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern- gwarchod data'.

Acquisition Information

Owen Parry; Llanegryn, Tywyn; Rhodd; 1958
Mrs Owen Parry; Llanegryn, Tywyn; Rhodd; 1959

Note

Hynafiaethydd o Lanegryn, sir Feirionnydd oedd Owen Parry, a gasglodd fel rhan o'i lyfrgell bapurau William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd' (1827-1904), bardd ac argraffydd.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r papurau yn rhagddyddio bywyd y casglwr, Owen Parry.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Archivist's Note

Mawrth 2003.

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Owen Parry;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Llyfrgell Genedlaethol, Llawysgrifau Cwrtmawr; Prifysgol Bangor, Papurau Gwilym Cowlyd.

Additional Information

Published