Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

Scope and Content

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Access Information

Dim cyfyngiadau

Acquisition Information

Rhodd gan Mrs Olivia Hughes de Mulhall, Trelew, Patagonia, Gorffennaf 2000.; A2000/65

Note

Preferred citation: NLW Facs 184

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Custodial History

Papurau a gasglwyd ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ŵyr John Murray Thomas

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosib

Related Material

Ceir llungopi o ddyddiadur taith John Murray Thomas i'r Andes, 1877, yn NLW Facs 396

Location of Originals

Credir bod y gwreiddiol ym meddiant Mrs Hughes de Mulhall, neu efallai yn Amgueddfa'r Gaiman, Patagonia

Additional Information

Published