Papurau Emlyn Evans

Scope and Content

Papurau Emlyn Evans, 1908-2014, yn ymwneud â'i yrfa yn y byd argraffu a'i weithgarwch ym myd llyfrau pan oedd yn byw yn Llundain, Llandybïe, ac yna'n ddiweddarach pan ddychwelodd i fyw i'w fro enedigol ym Methesda.

Administrative / Biographical History

Yr oedd Emlyn Evans yn rheolwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965, a Gwasg Gee, Dinbych, 1978-2001. Fe’i ganwyd ar 4 Rhagfyr 1923 yn y Carneddi, Bethesda. Mynychodd Goleg y Brifysgol, Bangor gan ddilyn cwrs gradd mewn Peirianwaith Trydan, Ffiseg a Mathemateg Bur. Priododd Eileen Morley Jones yn Llundain yn 1947 a ganwyd dau o blant iddynt Dafydd a Morfudd. Sefydlodd Gymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain ac ef oedd yr ysgrifennydd, 1953-1957. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Barn a bu’n olygydd am y ddwy flynedd gyntaf (1962-64). Bu’n athro economeg a mathemateg hefyd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, 1965-1978. Cyhoeddodd hunangofiant O’r niwl a’r anialwch yn 1991 a chyfres o erthyglau, Rhwng cyfnos a gwawr, yn 2012. Bu farw Emlyn Evans ar 13 Tachwedd 2014.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn bum cyfres: gohebiaeth; cyfnod Llundain; cyfnod Llyfrau'r Dryw, Llandybïe; cyfnod Bethesda; papurau personol; ac yn ddwy ffeil: cyfansoddiadau cerddorol Richard Evans a cherddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog].

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Dafydd Meurig (mab); Llanllechid; Rhodd; Ebrill 2018; 99881141102419.

Note

Yr oedd Emlyn Evans yn rheolwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965, a Gwasg Gee, Dinbych, 1978-2001. Fe’i ganwyd ar 4 Rhagfyr 1923 yn y Carneddi, Bethesda. Mynychodd Goleg y Brifysgol, Bangor gan ddilyn cwrs gradd mewn Peirianwaith Trydan, Ffiseg a Mathemateg Bur. Priododd Eileen Morley Jones yn Llundain yn 1947 a ganwyd dau o blant iddynt Dafydd a Morfudd. Sefydlodd Gymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain ac ef oedd yr ysgrifennydd, 1953-1957. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Barn a bu’n olygydd am y ddwy flynedd gyntaf (1962-64). Bu’n athro economeg a mathemateg hefyd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, 1965-1978. Cyhoeddodd hunangofiant O’r niwl a’r anialwch yn 1991 a chyfres o erthyglau, Rhwng cyfnos a gwawr, yn 2012. Bu farw Emlyn Evans ar 13 Tachwedd 2014.

Archivist's Note

Tachwedd 2019.

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Related Material

Trosglwyddwyd dau gartŵn gan yr artist Hywel Harries i gasgliad darluniau LlGC.
Ceir cofnodion yn ymwneud â Gwasg Gee hefyd yn Gwasg Gee Archive .

Additional Information

Published