Cofiant Thomas Edward Ellis, Cyfrol I

Scope and Content

Llawysgrif, wedi ei baratoi ar gyfer y wasg, o fywgraffiad T. I. Ellis o'i dad, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Lerpwl, 1944). = Manuscript, prepared for the press, of T. I. Ellis's biography of his father, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Liverpool, 1944).
Ysgrifennwyd y llawysgrif yn bennaf ar ddalennau rhydd o lyfrau ateb arholiadau. Mae cywiriadau, arnodiadau a throednodiadau wedi eu hychwanegu mewn pensil; mae nifer o frawddegau a rhai paragraffau wedi eu dileu, yn arbennig ar ff. 2, 19, 213 a 223, ac mae newidiadau ac ychwanegiadau sylweddol wedi eu darparu ar ddalennau ychwanegol. Mae'r newidiadau yma wedi eu hymgorffori yn y fersiwn cyhoeddedig. = The manuscript is written mostly on loose leaves from exam answer books. Corrections, annotations and footnotes have been added in pencil; several sentences and some whole paragraphs have been deleted, in particular on ff. 2, 19, 213 and 223, with major alterations and additions supplied on additional leaves. These alterations are incorporated in the published version.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Mr T. I. Ellis; Aberystwyth; Rhodd; Mehefin 1946.

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Preferred citation: NLW MS 16362C.

Archivist's Note

Awst 2006.

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Related Material

Ceir llawer o'r papurau a ddefnyddiwyd wrth ysgrifennu'r llawysgrif, ac a ddyfynnwyd ynddi, yn NLW, D. R. Daniel Collection ac NLW, T. I. Ellis Papers.

Additional Information

Published