Papurau'r Parch. John Roberts, Llanfwrog

Scope and Content

Papurau, 1925-1985, y Parch. John Roberts, Llanfwrog, yn cynnwys llythyrau, yn bennaf at y Parch. a Mrs John Roberts, 1928-1985, y gohebwyr yn cynnwys R. Williams Parry, 1946-1953; cerddi llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig, [1930]-1984; carolau ac emynau, 1962-1968; traethodau, darlithoedd ac anerchiadau crefyddol, 1949-1977, a gyflwynwyd mewn cystadlaethau eisteddfodol; darlithoedd, anerchiadau a nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg a phynciau crefyddol, 1957-1987; pregethau, [1929]-1979; sgriptiau radio ar gyfer gwasanaethau crefyddol, 1943-1978; sgetsys, dramâu byrion a rhaglenni nodwedd, 1964-1979; llyfrau nodiadau, 1932-1978; deunydd yn ymwneud ag R. Williams Parry, 1925-1969; a deunydd hanesyddol yn ymwneud â Chapel Moriah, Caernarfon, 1812-1979, Capel Tegid, Y Bala, 1885-1968, a Chapel y Garth, Porthmadog, 1945-1949. = Papers, 1925-1985, of the Rev. John Roberts, Llanfwrog, including: letters, mostly to Rev. and Mrs John Roberts, 1928-1985, the correspondents including R. Williams Parry, 1946-1953; manuscript, typescript and printed poems, [1930]-1984; carols and hymns, 1962-1968; essays, lectures and religious addresses, 1949-1977, entered for eisteddfod competitions; lectures, addresses and notes on Welsh literature and religious subjects, 1957-1987; sermons, [1929]-1979; radio scripts for religious services, 1943-1978; sketches, short dramas and feature programmes, 1964-1979; notebooks, 1932-1978; material relating to R. Williams Parry, 1925-1969; and historical material relating to Capel Moriah, Caernarfon, 1812-1976, Capel Tegid, Y Bala, 1885-1968, and Capel y Garth, Porthmadog, 1945-1949.

Administrative / Biographical History

Yr oedd John Roberts (1910-1984), Llanfwrog, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd. Fe'i ganed yn Nhŷ'r Cae bach, Llanfwrog, Llanfaethlu, sir Fôn. Addysgwyd ef yn ysgol Caergybi a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1931-1937. Bu'n weinidog Carneddi, Bethesda, sir Gaernarfon, [1937]-1944, Capel y Garth, Porthmadog, sir Gaernarfon, 1945-1957, Capel Tegid, Bala, sir Feirionnydd, 1957-1962, a Moriah, Caernarfon, tan ei ymddeoliad yn 1975. Dychwelodd i Lan-yr-Afon. Priododd Jessie, nyrs, yn 1938 a chawsant tair merch. Roedd yn enwog am ei bregethu, a chyfansoddodd farddoniaeth ac emynau (gyda George Peleg Williams). Enillodd dwy gadair am farddoniaeth yn eisteddfod Dyffryn Ogwen, ac am ryddiaith yn 1949 a 1973 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd llawer o'i gerddi cynnar yn y gyfrol Cloch y Bwi (Dinbych, Gwasg Gee, 1958).

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; barddoniaeth; carolau ac emynau, cyfansoddiadau eisteddfodol; darlithoedd ac anerchiadau; pregethau; sgriptiau radio; llyfrau nodiadau; a phapurau ymchwil amrywiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnydio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod deunydd'.

Acquisition Information

Mrs Jessie Roberts; Caernarfon; Pryniad; 1987.

Note

Yr oedd John Roberts (1910-1984), Llanfwrog, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd. Fe'i ganed yn Nhŷ'r Cae bach, Llanfwrog, Llanfaethlu, sir Fôn. Addysgwyd ef yn ysgol Caergybi a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 1931-1937. Bu'n weinidog Carneddi, Bethesda, sir Gaernarfon, [1937]-1944, Capel y Garth, Porthmadog, sir Gaernarfon, 1945-1957, Capel Tegid, Bala, sir Feirionnydd, 1957-1962, a Moriah, Caernarfon, tan ei ymddeoliad yn 1975. Dychwelodd i Lan-yr-Afon. Priododd Jessie, nyrs, yn 1938 a chawsant tair merch. Roedd yn enwog am ei bregethu, a chyfansoddodd farddoniaeth ac emynau (gyda George Peleg Williams). Enillodd dwy gadair am farddoniaeth yn eisteddfod Dyffryn Ogwen, ac am ryddiaith yn 1949 a 1973 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd llawer o'i gerddi cynnar yn y gyfrol Cloch y Bwi (Dinbych, Gwasg Gee, 1958).

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Mae'r fonds yn cynnwys dogfennau hanesyddol a gasglwyd gan y Parch. John Roberts yn ymwneud â chapeli lle y bu'n weinidog.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau, 1987, tt. 99-104, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Bibliography

Derec Llwyd Morgan, John Roberts Llanfwrog: Pregethwr, Bardd, Emynydd (Aberystwyth, 1999)

Additional Information

Published

Genre/Form