Papurau W. J. Gruffydd

Scope and Content

Papurau W. J. Gruffydd,[1903]-[1952], yn cynnwys drafftiau o erthyglau'n ymwneud â'r Mabinogi; nodiadau darlith ar gyfer ei gyrsiau Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd; nodiadau darlithoedd ac erthyglau eraill; sgyrsiau a darlledwyd gan y BBC; personalia; a grŵp sylweddol o ohebiaeth oddi wrth ffigurau llenyddol blaenllaw = Papers of W. J. Gruffydd, [1903]-[1952], including drafts of articles relating to the Mabinogi; lecture notes for his Welsh courses at University College of Wales, Cardiff; other lecture notes and articles; BBC broadcast talks; personalia; and a substantial group of correspondence from notable literary figures.

Administrative / Biographical History

Yr oedd William John Gruffydd (1881-1954) yn fardd, dramodydd, ysgolhaig, golygydd a beirniad. Cafodd ei fagu yng Ngorffwysfa, Bethel, sir Gaernarfon, a mynyddodd Ysgol Sir Caernarfon, ac astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn ddiweddarach yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yn 1904 fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yn 1906 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Celteg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog yn y llynges, 1915-1918, fe'i penodwyd yn Athro Ieithoedd Celtaidd yng Nghaerdydd ac arhosodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1946. Prif faes ei ymchwil oedd Pedair Cainc y Mabinogi, a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn chwarterol Y Llenor, 1922-1951; ysgrifennodd tair drama, a chyfieithodd Antigone gan Sophocles i'r Gymraeg. Bu'n ymgeisydd seneddol fel Rhyddfrydwr yn 1943, gan gystadlu yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, er gwaethaf y ffaith ei fod yn aelod blaenllaw <sup>TM</sup>r Cenedlaetholwyr Cymreig. Priododd a chael un mab.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: deunydd yn ymwneud â'r Mabinogi; nodiadau darlithoedd coleg; gwaith llenyddol; erthyglau a darlithoedd heblaw rhai coleg; deunydd ymchwil; adysgrifau o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg; deunydd BBC; amrywiol (catalog cyntaf); gwaith llenyddol, darlithoedd, etc.; gohebiaeth; ac atodiad (pwrcas 1979) (ail gatalog).

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Cyflwynwyd yn rhodd yn 1954 gan ei chwaer Miss Ceridwen Gruffydd

Note

Yr oedd William John Gruffydd (1881-1954) yn fardd, dramodydd, ysgolhaig, golygydd a beirniad. Cafodd ei fagu yng Ngorffwysfa, Bethel, sir Gaernarfon, a mynyddodd Ysgol Sir Caernarfon, ac astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn ddiweddarach yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yn 1904 fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yn 1906 penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Celteg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Ar ôl gwasanaethu fel swyddog yn y llynges, 1915-1918, fe'i penodwyd yn Athro Ieithoedd Celtaidd yng Nghaerdydd ac arhosodd yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1946. Prif faes ei ymchwil oedd Pedair Cainc y Mabinogi, a bu hefyd yn olygydd y cylchgrawn chwarterol Y Llenor, 1922-1951; ysgrifennodd tair drama, a chyfieithodd Antigone gan Sophocles i'r Gymraeg. Bu'n ymgeisydd seneddol fel Rhyddfrydwr yn 1943, gan gystadlu yn erbyn Saunders Lewis am sedd Prifysgol Cymru, er gwaethaf y ffaith ei fod yn aelod blaenllaw <sup>TM</sup>r Cenedlaetholwyr Cymreig. Priododd a chael un mab.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Mae copïau caled o'r catalogau ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (mae'r ail gatalog yn Gymraeg). Ceir mynediad i'r catalogau ar lein.

Archivist's Note

Chwefror 2003

Lluniwyd gan Annette Srauch i brosiect ANW.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Additional Information

Published