Emyn-donau a phapurau eraill William Llewelyn Edwards

Scope and Content

Casgliad o lungopïau o emyn-donau W. Llewelyn Edwards (1908-2000); llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau ar gyfer rhaglenni 'Caniadaeth y Cysegr' o dan ei arweiniad a gynhaliwyd yng Nghapel y Garn, 1958-1972, a chymanfaoedd canu eraill a gynhaliwyd yn lleol, 1965-1976; llyfr nodiadau ar achlysur Cymanfa Ganu a gynhaliwyd i ddathlu canmlwyddiant geni'r cerddor J. T. Rees, 1957; llyfr nodiadau yn cynnwys ei emyn-donau a ddefnyddiwyd yn 'Caniadaeth y Cysegr', 1992; torion o emyn-donau a ymddangosodd yn Trysorfa'r Plant, 1951-1959; nodiadau ar gerddoriaeth; ynghyd â thystysgrifau amrywiol, 1920-1996, am ei lwyddiant mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol ar gyfansoddi emyn-donau ac am lwyddo mewn arholiadau canu'r piano a sol-ffa yn bennaf; a phapurau'n ymwneud â chanlyniadau'r arholiadau sol-ffa gan gynnwys llythyr, 1956, yn ei hysbysu iddo gael ei benodi yn un o arholwyr Coleg y Tonic Sol-ffa.

Access Information

Dim gwaharddiad.

Acquisition Information

Rhodd gan Mrs Carys Jones, Tal-y-bont, Mehefin 2001.; A2001/37

Note

Preferred citation: NLW ex 2100

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Custodial History

Bu'r papurau yn nwylo ei ferch Mrs Carys Jones wedi ei farwolaeth ym mis Awst 2000.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir dwy gyfrol o emyn-donau William Llewelyn Edwards nas cyhoeddwyd yn Clychau'r Maes ... (1976) yn NLW ex 1514-1515.

Additional Information

Published

Subjects