LLYTHYR: D. Rees, Ty Calch, Bodorgan, at [Parch. Thomas Evans] yn anfon yr arian.
Mae yn ddrwg ganndo fod y swm yn llai nac arfer ond mae Capten Evans, Yr Henblas a'r teulu allan o'r wlad ar y pryd, ac mae hynny yn gwneud cryn golled. Mae yn gobeithio fod y teulu i gyd yn iach, ac yn gofyn iddynt anfon ei gofion caredig at Mrs Hughes, Bodednyfed.