Llythyr: A. Evans, Fronheulog, Amlwch at ei hannwyl briod, Parch T. Evans yn Brookside, Morda, Owestry

Scope and Content

LLYTHYR: A. Evans, Fronheulog, Amlwch at ei hannwyl briod, Parch T. Evans yn Brookside, Morda, Owestry. Dywedai fod J. M. wedi dal y daith yn syndod ond yn teimlo yn anystwyth oherwydd y plaster a'r bandasi.

Mae Dr Jones (Lerpwl) am iddi gael gwregys.

Bu Dr Tom yno ond os na fydd yn eu bodloni may yn bwriadu cymeryd Dr Jones, Bryn hyfryd neu Dr [?Bossitih].

Mae [?] T. Weyn a hithau wedi teimlo dipyn oddiwrth y gwlybaniaeth ond erbyn hyn mae y ddau ohonynt yn iawn.

Nid ydynt wedi cael cario'r gwair ond maent yn cario a'i holl agni yn Bodednyfed.

Mae Robert am ddod cyn diwedd yr wythnos.

Mae yn gobeithio fod ei gwr wedi gweld Ll.Ll. fe adawodd ddoe am Llundain.

Hefyd mae yn gobeithio ei fod yn mwynhau ei wyliau.

Yr oedd cynulleidfa dda y Saboth a Powell yn pregethu fel ei arfer a rhoi pwt o Saesneg i blesion Llew a'i ymwelwyr.

Mae yn amgau llythyr a ddaeth ido fel y gall ei ateb.

Daeth llythyr hefyd oddiwrth ei chwaer, Mrs Morgan o Ffestiniog ond nid yw yn anfon hwnnw gan ido wybod ei gynhwysiad.

Mae yn cofio at bawb ac yn pwyso ar ei gwr i fod yn ofalus o'i iechyd.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition