Llythyr: Richard Parry, Blacksmith care of Mr. Griffith Hughes, Trenton, Oneida Co., New York at ei chwaer

Scope and Content

LLYTHYR: Richard Parry, Blacksmith care of Mr. Griffith Hughes, Trenton, Oneida Co., New York at ei chwaer. Mae'n ymddiheuro am fod cyn hired yn ysgrifennu, ond roedd wedi gobeithio cael ei gweld cyn y Nadolig. Gan fod pethau yn wael iawn gartref mae wedi penderfynu aros blwyddyn arall i ffwrdd. Mae pethau yn bur wael yno hefyd ond mae yn gobeithio y bydd y sefyllfa yn gwella ar ôl cael "President Rhyddfrydol". Os na chaiff waith fel gof bydd yn rhaid iddo weithio ar fferm. Gwelodd John Hughes, jockey, o Walchmai a chafodd hanes y teulu ganddo. Mae yn gofyn ydynt anfon eu lluniau gan fod ganddo hiraeth mawr. Mae yn holi am amryw o bobl, ac yn pwysleisio ar yr hiraeth sydd arno ond nid yw eisiau dod adref heb dipyn o arian. Mae'n sôn am y gwahanol waith mae wedi bod yn wneud fel pigo hops, pigo afalau, gweithio yn y gwair, codi tatws ac ar y pryd mae yn torri coed. Mae yn cwyno llawer am y wlad - y tywydd a phopeth arall. Mae Sian Twm Owen wedi gwneud yn sâl iawn yn y wlad. Mae hi'n rhy ddiog i lanhau'r t?. Mae yn holi am Sarah ac Ellen Jane ac yn cofio at yr hen wraig. Fe ddaw adref fel g?r bonheddig rhyw ddydd.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition