Llythyr: [Richard Parry] Glan yr Afon, Stuben at ei fam

Scope and Content

LLYTHYR: [Richard Parry] Glan yr Afon, Stuben at ei fam. Derbyniodd ei llythyr ac un oddi wrth ei dad ac un arall oddi wrth John Hughes. Mae'n sôn am ei ddiweddar ewythr. Synodd at y bradwr Shion Owen ond mae'n gobeithio bydd ei fam yn ddiogon call i wneud ei bi lei hun yn ddigon mawr fel na fydd yna ddim digon i'w dalu, ac os na fydd hynny'n bosibl mae'n ei chynghori i ofyn i Dr. Owen ddyblu ei fil. Sut bynnag y bydd pethau, mae'n gobeithio na chaiff yr un o frid Ned Morgan na Cadi, Mas y Deryn ddim o'r arian. Fuasai Shion yn Blawd na Will bach ddim yn cael dim o'r busnes pe bai ef gartref. Mae Sion yn manteisio am fod anfonwr y llythyr a'i dad oddi cartref. Mae'r dywydd yn oer iawn ac ar y pryd mae'n aros gyda James Irving yn helpu porthi. Mae ganddo bedwar geffyl a dwy ar hugain o wartheg ac yn dod yn ei flaen yn dda, er ei fod yntau hefyd wedi cael "bad luck" ar y cychwyn. Mae'n mynd ymlaen i sôn eto am ewyllus ei ewythr ac yn swnio'n gâs iawn yngl?n â'r mater. Mi fuasa ffitiach i E. Jane ddweud wrth "Shone" ei fod yntau hefyd eisiau shâr o'r "50 pounds". Mae'n diolch am y lluniau a dderbyniodd.

Conditions Governing Access

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Anghyflawn