Llythyr: Ann Jones, Amlwch at ei gwr Robert

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDC/1/3/1/8
  • Alternative Id.
      GB 221 WDC/35
  • Dates of Creation
      1880 Ebr. 29
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Ann Jones, Amlwch at ei gwr Robert. Mae wedi derbyn ei lythyr, ac am fynd i'r banc pnawn heddiw i anfon £40 iddo. Dywed fod y gwaith yma yn creu llawer o boen i'r perchenogion. Mae yn mawr obeithio y gall James Williams dalu ei ffordd beth bynnag. Ofni'r gwaethaf a wnâi hi o hyd, a gobeithio'r gorau ar yr un pryd. Mae hi wedi gyrru i Robert i ofyn iddo anfon gair ato ef [ei dad]. Mae'r"Catherine Williams" wedi darfod llwytho sialc am Lerpwl - 6s. 3d. y dunnell ac mae Robert wedi anfon £13 i'r banc. Mae hi yn meddwl ei gymryd a rhoi'r£12 i Mrs Thomas t? nesaf. Hefyd mae Richard Jones y "Sea Gull" wedi anfon £2 ac mae o wedi siartio i lwytho brics am Truro - 50 tunnell am 3s. 6d. [y dunnell]. Methu cael dim am Bristol Channel. Mae'r"Jane Grey" wedi mynd heibio am Runcorn ers dyddiau' - mae o yn gryn drosodd troi Joseph o'r "Cwmavon" yng ngolwg ei wraig a'i fam. 'Roedd ei hysbryd yn cynhyrfu pan glywodd fod y ddwy yn siarad mor annoeth, ac mae am ddweud wrthynt pan gwêl hwynt. Mae yn ormod ei fod ef wedi dioddef cyhyd a chael y fath golled, ac yn y diwedd y rhai diegwyddor anonest yn beio. Mae Mr. Evans yn mynd i ffwrdd i edrych am ei dad gyda'i wraig a'i blant, a'r wraig yn mynd i weld ei theulu hithau. Fe ddywedodd dipyn bach o'r hanes wrthi ar ôl bod yn d?'r hen Mrs. Williams. Mae yn gofyn iddo ac ydyw ei lety yn symol. 'Roedd yn meddwl amdano yn nhrymder y nos neithiwr ac yn methu cysgu. Nid oes ganddi ddim newydd hynod yn y byd. Mi fu Owen Jones, Rhosybol yno dydd Mercher ac mae yn fodlon gwneud popeth 'run fath ag ef [Capten Jones] yngl?n â'r "Pride".

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition