Llythyr: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDC/1/3/1/12
  • Alternative Id.
      GB 221 WDC/39
  • Dates of Creation
      1881 Maw. 31
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones] . Mae ei lythyr cwynfanus wedi dod i law. Mae yn diolch nad yw y Tad Nefol ddim yn ddig wrthynt am gwyno - mae Ef yn gwybod am eu gwendidau, ac yn rhoi cymorth i beidio ag grwgnach a bod yn ddychanwyr. Mae pob croes yn gâs ond mae eisiau cofio nad yw y ffordd yn faith i'w chario, a hefyd na wyddent ddim am y rhai trymion. Mae Robert bach mewn lle dieithr a neb i ddweud ei gwyn. Mae eisiau diolch am bob peth, os collant yr ysbryd hwnnw fe fydd yn druenus arnynt yn union. Mae hi am fynd o'r llan ac anfon 'Post Office Order' iddo am £10. Mae'n gobeithio yn arw mai ofni yn unig y mae ef ei fod wedi cael gwely llaith. Mae hi yn oer iawn yn Amlwch heb sôn am y lle y mae ef ynddo. Mae Mr Evans yn gofyn amdano, 'roedd hi wedi bod yn ei weld dydd Mawrth, llais gwan sydd gan Mr Evans i wneud fawr i'r ysgol ond fe all ?Mrs Evans ddylanwadu arno. Mae Mrs. Wrench wedi anfon i ddweud na fydd hi ddim yn cymryd y pregethwyr ddim ychwaneg ac mae Mrs. Evans yn dweud na fedr hi ddim chwaith. Mae Evan Griffith reit ddrwg.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition