Llythyr: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDC/1/3/1/6
  • Alternative Id.
      GB 221 WDC/33
  • Dates of Creation
      [1870]
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]. Mae wedi derbyn llythyr oddi wrtho ac yn ddrwg ganddi glywed i fod mewn trwbl ac mae yn gobeithio na wnaiff ddim poeni i wneud niwed iddo ei hun. 'Roedd yn dweud wrthi ei hun ddoe y buasai yn sôn yn ei llythyr nesaf am iddo newid cadwyn ei oriawr am un well os oedd popeth wedi ei fodloni. Mae yn falch o adael iddo wybod fod ei dad yn well yn ei ysbryd. Mae y dolur yn rhywfaint gwell. Bu yn y capel ddwy waith ddoe yn y diolchgarwch am y cynhaeaf. Cawsant ddiwrnod da iawn a phregeth yn yr hwyr. Y testun oedd bod eisiau diolch am bopeth - y chwerw a'r melys. Nid oes dim byd newydd ond fod baban bach gan wraig y 'Brewhouse'. Ni ?yr pwy fydd yn pregethu'r nos Sul nesaf. Mae yn gobeithio bod y ddau ohonynt yn iach ac y byddan adre' cyn bo hir. Mae y banc yn agored heddiw un o'r gloch ac fe aiff yno yfory.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition