Llythyr: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDC/1/3/1/7
  • Alternative Id.
      GB 221 WDC/34
  • Dates of Creation
      1870
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones] Cyrhaeddodd ei lythyr bron yn annisgwyliadwy oherwydd tywydd mor fawr. Mae yn diolch i'r Arglwydd am ei fawr ofal amdanynt. Mae yn ddrwg ganddi glywed fod y crydcymalau yn dal i'w boeni ac yn ddiamau mai'r oerni sydd yn ei achosi. Os y caiff ei gwr fyw i ddyfod adref fe glyw fwy o s?n gofidiau nac erioed. Mr. Owens Y Persondy wedi marw yn sydyn hefo 'stroke'; John Hughes, Cae Crwn wedi ei ladd hefo trên yn Sir Gaernarfon; mae hi yn gobeithio nad oedd o ddim yn feddw. Mae Ann Morgan, gynt, yn wael iawn. Mae ei fam yn dal yn wael. Bu gyda gwraig Harry Lewis heddiw yn ceisio cael eli at ei choesau, yn ôl pob arwydd gwaethygu a wnâi, ac yn flin fel pawb arall dan ofidiau. Buasai yn falch pe bae yn cael rhywun iawn i edrych ar ôl ei eiddo. 'Roedd Richard Hughes yn 'Dublin' dydd Mercher. Ni chafod ei wraig lythyr oddi wrtho ond mae yn sicr ei fod ef (R. Hughes) yn gobeithio bod gyda Chapten Jones yn fuan. Os bydd hi wedi clywed rhywbeth yfory fe wnaiff anfon i ddweud. Mae yn gofyn a fyddai yn well iddi fynd at wraig Rowland Jones i holi yn ei gylch. Mae Robert Pritchard wedi colli ei long tua Phentir - wedi mynd yn dipiau mân . 'Roedd ofn arni iddo yntau fod mewn helbul yn y 'Lough'. Mae yn anfon cofion at Robert, ac mae ei nain yn sôn amdano dan grio.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition