Llythyr: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDC/1/3/1/17
  • Alternative Id.
      GB 221 WDC/44
  • Dates of Creation
      [tua 1885]
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]. Mae wedi derbyn y telegram oddi wrtho yn awr - bron yn dri o'r gloch felly yn rhy hwyr am y banc. Fe dderbyniodd £12 gan Mrs. Thomas, t? nesaf, ac mae Margaret Jones wedi mynd a'r arian i anfon 'Post Office Order' i Mrs. Bankers ? Portaskaig Hotel. Mae yn gobeithio ei fod wedi derbyn £12 a anfonwyd iddo yn ôl ei ddymuniad i Ardrossan. Mae wedi dangos y telegram oddi wrtho i Mr. Evans. Mae yn hwyr ganddi ei weld yn dod adref, ac yn poeni ers dydd Sadwrn am eu bod wedi methu a deall y telegram. Maent yn gobeithio y bydd y "Catherine Williams" yn wag yfory yn Aberdeen ac wedi siartio am Lundain i lwytho Cerrig am 5s. 6d. [?y dunnell]. Mae y "Sea Gull" yn Plymouth ac wedi bod yn Milford. Yn Shields yr oedd yr "Amanda" tua'r Sul a methu a chael allan. Mae John Thomas, y gwas, yn llwytho yn y Felinheli am Lundain. Nid oes dim newydd ond fod gwraig Richard Hughes, bricsiwr (bricklayer) wedi ei chladdu ers wythnos a thad ynghyfraith Mr. O. Hughes, Glasgraig wedi ei gladdu ddoe. Mae Mr. Hughes yn galw yno yn aml i holi amdano. Mae William Jones 'sailmaker' wedi bod reit wael. Mae Robert bach yn gobeithio fod ei dad yn well. Mae'r tywydd wedi gwella arnynt hwy yn Amlwch. Mae Mr. Evans yn cofio ato.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition