Dyddiadur

Scope and Content

Cefndir hwn yw y Methodist Pocket Book am 1826. Ond ei brif bwysigrwydd yw tt. 77-90, lle y croniclir genedigaethau plant Richard Roberts y Castell - Elen (26 Awst 1834); Ann (17 Mawrth 1836); Catharine (2 Chwefror 1838); Thomas (1 Chwefror 1841); Sarah (2 Medi 1846); a Richard a sefydlodd yn Bombay (5 Ebrill 1849).

Ychwanegiadau pur bwysig at y Pedigrees, t.381. Manylion eraill a gyfleir yw y rhoddion a gafodd pob un o'r plant gan berthynasau a charedigion - gellir dod o hyd i'r rhan fwyaf o'r enwau yn y Pedigrees ond "Anty Ruth". Ai un o ferched y Foty, Llansadwrn, ydoedd, chwaer i wragedd Richard Roberts a Samson ei frawd? Ar t.88, ceir R.R. yn anghofio byd y plant, ac yn myned ar ôl ei gowntiau ei hun.