CMA: Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog,

Scope and Content

Cofysgrifau Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, gan gynnwys cyfrifon, 1862-1978, cofnodion cyfarfodydd eglwysig, 1850-1979, papurau a chynlluniau, 1898-1978, yn ymwneud â'r adeilad, ystadegau blynyddol, 1906-1978, a chofrestri bedyddiadau, 1864-1950; ynghyd â chofnodion yr Ysgol Sul, 1887-1941.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, ym mis Chwefror 1864. Fe adeiladwyd yr Eglwys ym mis Medi 1902. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn yr Eglwys ar ddydd Sul, 19 Tachwedd 1978.

Arrangement

Trefnwyd yn ddau grŵp: cofnodion y Capel a chofnodion yr Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Y Parch. J. E. Wynne Davies; Aberystwyth; Adnau; Mawrth 2004, a Chwefror 2005; 0200403047, 020050194.

Note

Sefydlwyd Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, ym mis Chwefror 1864. Fe adeiladwyd yr Eglwys ym mis Medi 1902. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn yr Eglwys ar ddydd Sul, 19 Tachwedd 1978.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Archivist's Note

Chwefror 2005 a Gorffennaf 2008.

Lluniwyd y disgrifiadau yn wreiddiol gan Catrin Holland. Uwchraddiwyd y catalog gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Cronfa capeli LlGC; Eglwys y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog. Cyfarfod ei Jubili (Blaenau Ffestiniog, 1914); ac eitemau yn yr archif;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir adroddiadau blynyddol y Capel, 1878-1977 (gyda bylchau) yn LlGC, ynghyd â chyfrifon, 1911-1929 (NLW MS 17917D) a hanes diwygiad, 1904-1905, yn y Capel (NLW MS 18245B). Ceir cofnodion a chyfrifon, 1918-1926, yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor ac adroddiadau blynyddol a chofnodion eraill yn Archifdy Meirionnydd.

Additional Information

Published