CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon

Scope and Content

Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon, 1842-1999, gan gynnwys cofrestri, llyfrau casgliadau, llyfrau'r eisteddleoedd, llyfrau'r weinidogaeth, cofrestri anghydffurfiol ac Eglwysig, llyfrau cofnodion pwyllgorau, llyfrau cofnodion, gohebiaeth, a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau'r Eglwys a chofnodion yr Ysgol Sul.

Administrative / Biographical History

Moreia oedd yr unig Eglwys Fethodistaidd yn nhref Caernarfon tan 1842. Dechreuwyd adeiladu addoldy newydd yn 1841 ac fe agorwyd Eglwys Engedi ar 19 a 20 Mehefin 1842. Erbyn chwedegau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd galw am adeilad mwy oherwydd fod y niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol unwaith yn rhagor. Yn Ionawr 1867 agorwyd Eglwys newydd a gynlluniwyd gan Richard Owen, Lerpwl. Yn 1881 gwariwyd ar atgyweirio'r capel ac i ychwanegu is-ystafelloedd. Yn 1886 codwyd Capel Beulah. Agorwyd ysgol ddyddiol yn y seler o dan y capel ar gyfer tlodion y gymdogaeth, 'Ysgol y Seler', yn fuan wedi agor Eglwys Engedi ac yn 1893 fe'i symudwyd i Ysgol Genhadol Mark Lane. Prynwyd y Tŷ Capel yn 1923 a gwnaethpwyd gwelliannau i'r organ hefyd.
Ar 19 Mai 1996 sefydlwyd y Parchedig Harri Parri yn Weinidog Gofalaeth Eglwysi Caernarfon. Derbyniwyd rhai o aelodau Eglwys Beulah gan Eglwys Engedi wedi iddi gau yn 1997. Er bod yr adeilad mewn cyflwr truenus ni lwyddwyd i sicrhau'r cyllid digonol i fedru gwneud y gwaith angenrheidiol. Penderfynodd yr aelodau na fedrent gwrdd â'r gost enfawr ac i ymuno gyda Eglwys Seilo i wneud un Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg yn y dref o ddechrau Ionawr 1999 ymlaen. Bwriadwyd cynnal oedfa olaf Eglwys Engedi ym mis Rhagfyr 1998 ond penderfynwyd yn erbyn hyn oherwydd cyflwr yr adeilad.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn bum grŵp: materion ariannol; materion gweinyddol; cofnodion Yr Ysgol Sul; materion diwylliannol a chymdeithasol; a phapurau amrywiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Robert M. Morris, Pen-y-groes, ym mis Mehefin 2002.; 0200208814

Note

Moreia oedd yr unig Eglwys Fethodistaidd yn nhref Caernarfon tan 1842. Dechreuwyd adeiladu addoldy newydd yn 1841 ac fe agorwyd Eglwys Engedi ar 19 a 20 Mehefin 1842. Erbyn chwedegau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd galw am adeilad mwy oherwydd fod y niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol unwaith yn rhagor. Yn Ionawr 1867 agorwyd Eglwys newydd a gynlluniwyd gan Richard Owen, Lerpwl. Yn 1881 gwariwyd ar atgyweirio'r capel ac i ychwanegu is-ystafelloedd. Yn 1886 codwyd Capel Beulah. Agorwyd ysgol ddyddiol yn y seler o dan y capel ar gyfer tlodion y gymdogaeth, 'Ysgol y Seler', yn fuan wedi agor Eglwys Engedi ac yn 1893 fe'i symudwyd i Ysgol Genhadol Mark Lane. Prynwyd y Tŷ Capel yn 1923 a gwnaethpwyd gwelliannau i'r organ hefyd.
Ar 19 Mai 1996 sefydlwyd y Parchedig Harri Parri yn Weinidog Gofalaeth Eglwysi Caernarfon. Derbyniwyd rhai o aelodau Eglwys Beulah gan Eglwys Engedi wedi iddi gau yn 1997. Er bod yr adeilad mewn cyflwr truenus ni lwyddwyd i sicrhau'r cyllid digonol i fedru gwneud y gwaith angenrheidiol. Penderfynodd yr aelodau na fedrent gwrdd â'r gost enfawr ac i ymuno gyda Eglwys Seilo i wneud un Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg yn y dref o ddechrau Ionawr 1999 ymlaen. Bwriadwyd cynnal oedfa olaf Eglwys Engedi ym mis Rhagfyr 1998 ond penderfynwyd yn erbyn hyn oherwydd cyflwr yr adeilad.

Crewyd y teitlau ar sail cynnwys y papurau. Rhoddwyd y teitlau gwreiddiol mewn dyfynodau.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Mai 2005

Lluniwyd gan Ann Francis Evans.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Cronfa CAPELI LlGC; Canmlwyddiant, 1842-1942, Engedi Caernarfon (Caernarfon, 1942); Gwilym Arthur Jones, Pobl Caernarfon ac addolwyr Engedi, 1842-1992 (Caernarfon, 1992); ac eitemau yn yr archif.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Gwaredwyd rhai cofnodion ariannol yn ymwneud ag Eglwys Engedi gan gynnwys bonion llyfr siec, 1936-1937, 1939, datganiadau banc, 1937-1940, 1989-1991, a datganiadau banc 'Engedi Mission Clothing Club', 1983-1988. Dinistrwyd taflenni angladd a dyblygion cylchlythyrau (gweler Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2005-06/1)..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir deunydd amrywiol yn ymwneud ag Eglwys Engedi yn Archifdy Caernarfon. Ceir eitemau printiedig amrywiol am yr achos yn LLGC. Hefyd, mae adroddiadau blynyddol, 1892-1997 (gyda bylchau), yn LlGC. Gweler hefyd ddisgrifiadau lefelau cyfres/ffeil.

Additional Information

Published