Papurau Erfyl Fychan

Scope and Content

Papurau Erfyl Fychan, 1858-1996, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato, rhai oddi wrth ei gyd-aelodau yn yr Orsedd, copi o'i draethawd MA, 1939, sgriptiau radio, llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru') a chyfrolau eraill yn cynnwys adysgrifau a ddaeth i'w feddiant, ynghyd â phapurau ei fab Geraint Vaughan-Jones.

Arrangement

Trefnwyd ar sail profiant yn LlGC yn bum cyfres: gohebiaeth gyffredinol, traethawd MA, Yr Eisteddfod Genedlaethol, 'Telynor Cymru', llyfrau nodiadau ac adysgrifau; ynghyd â phum ffeil: sgriptiau radio, Efrydiau Allanol, 'Hen faledau 1780-1890', deunydd printiedig a thorion o'r wasg.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd y grŵp cyntaf o bapurau Erfyl Fychan ym mis Ebrill 1965, ynghyd â chofnodion plwyfol Llanerfyl ym mis Chwefror 1966. Ym mis Mehefin 2001 derbyniwyd papurau ychwanegol Erfyl Fychan fel rhodd gan ei fab y Parchedig Ganon Geraint Vaughan-Jones. Cytunodd hefyd i drosi'n rhodd y papurau a roddwyd ar adnau i'r Llyfrgell gan ei dad. Derbyniwyd pedair cyfrol ychwanegol ym mis Medi 2003 trwy law Marian Delyth yn rhan o gymynrodd o lyfrau y diweddar Barchedig Ganon Geraint Vaughan-Jones.; A2001/34, 0200310931

Note

Mae dyddiad olaf y creu yn ddiweddarach nag oes Erfyl Fychan oherwydd ceir papurau ei fab Geraint Vaughan-Jones hefyd. Crewyd y teitlau ar sail cynnwys y papurau. Rhoddwyd y teitlau gwreiddiol mewn dyfynodau.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr hon yn LlGC.

Archivist's Note

Gorffennaf 2004

Lluniwyd y rhestr gan Ann Francis Evans.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: The Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997); Geraint a Zonia Bowen, Hanes Gorsedd y Beirdd ([Felindre, Abertawe], 1991); ac eitemau yn yr archif.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd y papurau i gyd..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir ach y sipsiwn Cymreig a luniwyd gan Erfyl Fychan, 1933-1939, yn NLW Rolls 136. Yn bocs 28 o'r cofnodion a gasglwyd gan y Powysland Club mae cais Erfyl Fychan, 1942, am swydd Cyfarwyddwr Addysg Sir Feirionnydd. Mae cofnodion plwyfol Llanerfyl, 1681-1838, ymhlith Archifau'r Eglwys yng Nghymru yn LlGC. Mae ffotograffau o Erfyl Fychan yn LlGC Casgliadau Arbennig. Gweler hefyd ddisgrifiadau lefel ffeil.

Additional Information

Published