CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion y Capel, 1865-1866, 1870-1984, a chofnodion yr Ysgol Sul, [1885]-1887, 1910-1960, gan gynnwys cofrestri, cyfrifon, cyfraniadau aelodau a chofnodion pwyllgorau a chymdeithasau yn ymwneud â'r Capel.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd yr achos ym 1825 mewn ysgoldy bach yn ymyl chwarel Dinorwig a godwyd, yn ôl pob tebyg, gan oruchwylwyr y chwarel. Daeth 35 o aelodau a 15 o blant draw o'r Capel Coch pan sefydlwyd yr eglwys. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelodau yn ystod diwygiad 1832 ac yn dilyn y tŵf yma adeiladwyd capel newydd ym 1833. Bu'n rhaid ymestyn yr adeilad ym 1849 yn sgîl cynnydd yn y boblogaeth. Yn Chwefror 1862 agorwyd Capel Fachwen ac roedd y mwyafrif o'i 67 o aelodau yn gyn-aelodau Capel Dinorwig. Serch hynny, nifer aelodaeth yr eglwys erbyn 1866 oedd 235.
Yn Awst 1874 agorwyd capel newydd ar gost o £1600 ac ym 1880 cofrestrwyd y capel i weinyddu priodasau. Roedd Hugh Jones ('Huw Myfyr'), John Puleston Jones a Ieuan Bryn Williams ymhlith y gweinidogion a wasanaethodd yn y Capel. Tybiwyd mai Ysgol Sul Dinorwig, a gychwynnodd tua 1790, oedd y cyntaf yn Arfon.
Caewyd Capel MC Dinorwig yn 2000. Roedd yn rhan o Ddosbarth Eryri a Henaduriaeth Arfon yr adeg honno.

Arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddau grŵp: cofnodion y Capel a chofnodion yr Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Robert M. Morris, Pen-y-groes, Mehefin 2002.; 0200208844

Note

Sefydlwyd yr achos ym 1825 mewn ysgoldy bach yn ymyl chwarel Dinorwig a godwyd, yn ôl pob tebyg, gan oruchwylwyr y chwarel. Daeth 35 o aelodau a 15 o blant draw o'r Capel Coch pan sefydlwyd yr eglwys. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr aelodau yn ystod diwygiad 1832 ac yn dilyn y tŵf yma adeiladwyd capel newydd ym 1833. Bu'n rhaid ymestyn yr adeilad ym 1849 yn sgîl cynnydd yn y boblogaeth. Yn Chwefror 1862 agorwyd Capel Fachwen ac roedd y mwyafrif o'i 67 o aelodau yn gyn-aelodau Capel Dinorwig. Serch hynny, nifer aelodaeth yr eglwys erbyn 1866 oedd 235.
Yn Awst 1874 agorwyd capel newydd ar gost o £1600 ac ym 1880 cofrestrwyd y capel i weinyddu priodasau. Roedd Hugh Jones ('Huw Myfyr'), John Puleston Jones a Ieuan Bryn Williams ymhlith y gweinidogion a wasanaethodd yn y Capel. Tybiwyd mai Ysgol Sul Dinorwig, a gychwynnodd tua 1790, oedd y cyntaf yn Arfon.
Caewyd Capel MC Dinorwig yn 2000. Roedd yn rhan o Ddosbarth Eryri a Henaduriaeth Arfon yr adeg honno.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Rhagfyr 2002.

Lluniwyd gan Siân Bowyer.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr hwn: W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon. Dosbarth Dinorwig (1921); 'Braslun o Hanes yr Eglwys', Eco'r Wyddfa, rhif 267 (Mai 2000); Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys Bresbyteraidd Cymru 1999; Cronfa CAPELI LlGC.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Mae cofrestr bedyddiadau, 1809-1837, ar gadw yn yr Archifdy Gwladol (PRO: RG4/3873) a cheir copi microffilm yn LlGC. Cedwir adysgrifau o gofnodion bedyddiadau, 1826-1835, yn LlGC (Bala College Safe MSS, III, 3), yn ogystal ag Adroddiadau Blynyddol, 1913-1972 (gydag amryw fylchau). -- Trosglwyddwyd deunydd printiedig, sef testunau Beiblaidd ac esboniadau yn bennaf, i'r casgliad llyfrau print.

Additional Information

Published