Llythyr: Teulu 55 Albion Street at eu plant Bessey ac Edward a'r teulu oll yn Fron Deg

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WM1417/2/28
  • Alternative Id.
      GB 221 WM/1417/79
  • Dates of Creation
      1890 Meh. 30
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Teulu 55 Albion Street at eu plant Bessey ac Edward a'r teulu oll yn Fron Deg. Mae Grace ac Owen yng Nghonwy ac fel mae ewythr John wedi anfon "y mae y shop o rannu y Clarence Society yn sefyll ar Grace". Maent yn gobeithio eu bod yn edrych ar ôl Edward ac yn erfyn arnynt i fod yn blant da a pheidio bod yn drafferth. Maent am anfon 'Cadw mi Gei' iddynt ar y stemar i Gaergybi. Ni ddaeth gair o gwbl o Lanfachraeth ond tebyg fod pethau yn ymyl cael eu setlio. Maent yn cwyno nad oedd Bessie wedi sôn os oedd Edward yn well gan ei fod yn cwyno efo'i ben, ac yn siarsio Bessie i beidio siarad yr un gair o saesneg efo fo rhag ei ddrysu efo'r iaith. Maent eisiau galw efo Martin (twrnai) ynghylch talu toll. Maent yn gofyn i Bessie ofalu na wnaiff Ted ddim mynd i'r cae at y merlyn a'r gwartheg rhag ofn iddynt ei ddychryn ac iddo gael mwy o atal nac y sydd arno yn barod. Mae Maggie wedi cael torri ei gwallt yn gwta a mae'r doctor yn ofni ei bod yn mynd yr un fath a Edward. Bu Emma a Maggie yn Burleigh ddydd Sul a phawb yn iawn yno. Yn diwedd drwy erfyn eto arnynt i fod yn blant da.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da /Good condition